MRS. MARGARET PRITCHARD. PIKE GROVE, RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.

Gorphenaf 28ain,1875, yn ardal Pike Grove, ger Racine, Wisconsin, bu farw Mrs. Margaret Pritchard, priod Robert Prichard, o fewn ychydig fìsoedd yn 75 mlwydd oed.

Yr ydoedd yn ferch henaf i Wllliam a Mary Jones, Tyddyngwran Isaf, ger Glynn Llifon, sir Gaernarvon, Gogledd Cymru.

Ei hafiechyd oedd gwendid, a henaint yn cydweithio â hyny. Ar y laf o Chwefror, 1822, pan yn 21 mlwydd oed ymunodd ein chwaer ymadawedig mewn priodas a'i gŵr amddifad presenol, yr hwn y pryd hyny a adnabyddìd fel Robert Pritchard, Garthdorwcn, Llandwrog, Gogledd Cymru. Priodwyd hwynt yn hen eglwys Llandwrog gan y Parch. David Williams, yr offeiriad.

Ganwyd 12 o blant iddynt yn yr Hen Wlad. Yn y flwyddyn 1843 gwerthasant eu holl eiddo mewn trefn i ymfudo i America. Ond ar adeg eu cychwyniad daeth y typhoid fever i fewn i'r teulu, oddiwrth yr hwn y dyoddefodd Mrs. Pritchard yn fawr ac y gorfu iddi aros yn ôl gyda'i rhieni nes y delai yu ddigon cryf i groesi y Werydd, dau ofal dau o'i meibion, a adawsìd gyda hi i'r amcan hyny. Wedi gwella, cychwynodd tu a'r Gorllewin, ar ôl y rhai a'i blaenasant. Ar y 6fed o Orphenaf, 1843, cyfarfyddodd hi a'i gŵr eu gilydd yn gysurus yn Racine, Wisconsin. Yna dygwyd hi i'w chartref darparedig - Garthdorwen (enw cartref Mr. Pritchard yn yr Hen Wlad.) Ac yno y diweddodd ei gyrfa.

Ymddengys mai i'r Eglwys Wladol yr elai Mrs. Pritchard yn moreu ei hoes. Ond yn y flwyddyn 1838 aeth at yr Annibynwyr, ac yn fuan wedyn ymunodd â hwynt. Derbyniwyd hi yn gyftawn aelod i eglwys Pen y Groes, Llanllyfni gan y Parch. Owen Thomas eu gweinidog ar y pryd. Bu yn aelod ffyddlon o ddechreuad ei gyrfa grefyddol yn ngwlad ei genedigaeth hyd ei hangladd yn y wlad hon. Teimlir colled nid bychan ar ei hol yn eglwys Pike Grove, lle yr oedd yn aelod, bron er : dechreuad yr achos Annibynol yma.

Cafodd ein chwaer ymadawedig ei ehystaddio gryn dipyn yn ystod ei hoes, yn neillduol ar derfyn eitha'r daith, ond yr oedd wedi dysgu dweyd; "Gwneler dy ewyllys." Yn ei dyddiau olaf adroddai yn fynych gyda theimlad drylliog yr hen benill hwnw -

O na allwn roddi mhwys
Ar dy ardderchog law,
A gado i gystudd ddod
Oddiyma ac oddidraw,
A byw dan nawdd y Dwyfol waed
Yn ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.

Bu farw o farwolaeth yr uniawn. Yr oedd ei hangladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yma yn mhlith y Cymry er ys blynyddau. Yn y tŷ cyn cychwyn darllenodd yr ysgrifcnydd ranau o'r Ysgrythyr cysylltiedig a'r amgylchiad, a gweddiwyd gan y Parch. John Jones, Racine. Wrth y bcdd rhoddwyd emyn i'w ganu gan y Parch. Josepb Roberts (M. C.), Racine, a gweddiwyd gan y Parch. M. Hughes (M. C.), o'r un ddinas. Rhaid wedyn oedd troi adref a'i gadael yn "y bedd hyd ddiwcdd byd." Cysured Duw ei pberthynasau gofidus, a'i amddiffyn a fo dros ei phriod amddifad, oedranus a duwiol, yr hwn a deimla y gorfydd iddo yntau ar frys roddi ei dabernacl daiarol heibio, a hyny credwn am un gwell a pherffaith, iach.
M. CADWALADER.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1875.