MRS. ELIZABETH ROBERTS, QUINCY, MASSACHUSETTS.

Chwefror 5ed, 1875, yn Quincy, Massachusetts, Mrs. Elizabeth Roberts.

Ymadawodd o Bethesda, Gogledd Cymru tua blwyddyn a haner yn ôl i Granville, New York.

Bu yno hyd mis Medi diweddaf, pryd yr ymadawodd hi a'i dau fab, William a Solomon, i Quincy, ac yr ydym yn credu ei bod wedi cymeryd ei hedfan oddiyma i wlad sydd well i fyw. Bu farw yn dawel a'i hymddiried yn y gŵr y bu ar hyd ei hoes yn ei wasanaethu. Yr oedd cyn marw yn tystio, er dyfned yr afon fod y graig o dan ei thraed, a bod yn gweled goleuni yn nghanol tywyllwch y glyn.

Gadawodd dri o blant i alaru ar ei hol, David, William a Solomon.

Y Drych ~ 18fed Chwefror 1875.