MRS. MARY ROBERTS, PENIEL, OSHKOSH, WISCONSIN.

Mawrth 30ain, 1875, yn ardal Peniel, ger Oshkosh, Wisconsin, Mrs. Mary Roberts, gweddw y diweddar Hugh Roberts, Proscairon, a mam y Parch. Thomas H. Roberts.

Ganwyd hi yn y Bala, Tachwedd. 14, 1787, pe buasai fyw hyd Taehwedd nesaf buasai yn 88 mlwydd oed. Derbyniwyd hi i gymundeb eglwys yn y Bala gan y Parch. Thomas Charles, pan tua 18 oed. Yn fuan wedi hyn symudodd o'r Bala i sir Gaernarfon, a pan tua 30 oed ymunodd mewn priodas gyda H. Roberts.

Bu iddynt saith o blant, pedwar yn fyw yn awr. Yn Awst, 1845, ymfudodd i'r wlad hon at eu hunig fab a'u merch oedd wedi dod dymor yn cynt, ac ymsefydlasant yn ardal Proscaeron.

Chwefror 23ain, 1865, cafodd y brofedigaeth o gladdu ei hanwyl briod. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hamser wedyn gyda'i merch, Mrs. Williams, Garnedd, o'r ardal hon. Fe gafodd y chwaer yma y fraint o ddilyn achos Mab Duw am yn agos i 70 o flynyddoedd, a hyny yn ddifwlch a ffyddlon. Dyma amser maith i gario y groes; ond fe'i cariodd, gan ei hystyried yn fraint. Ni bu erioed yn feddianoi ar brofiad uchel, cwyno y byddai yn fynych fod gormod o lygredd yn ei chalon. Ni ddywedai ei bod yn sicr ei bod yn gadwedig; ond yr oedd yn gobeithio y cai ei chadw trwy rinwedd yr hwn fu farw ar Galfaria. Yr oedd yn dda iawn ganddi am hwnw, yr oedd wedi ymbriodi a'i achos cyn meddwl priodi a neb arall, ac yn gobeithio nad allai angau ddim datod y cwlwm hwnw.

Tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai oreu am dani oedd, mae y pethau anwylaf gan ei chalon oedd y Beibl a chysegr Duw. Yr oedd yn rhaid i'r gyfrol ddwyfol gael lle yn wastad ar ei bwrdd, ac ni fynai golli yr un moddion os gallai mewn rhyw fodd ddod iddynt. Nid rhoi ei phresenoldeb yn unig y byddai, ond byddai yn cynorthwyo hyny allan i gynal y moddion. Yr oedd ei gwrandawiad astud a'i hawen gynes yn gymorth i fyned a'r moddion yn mlaen. Ac nid hyny yn unig chwaith, ond yr oedd o galon yn haelionus at bob achos da.

Byddai yn rhaid iddi gael rhoi llawer yn ôl ei hamgylchiadau, a rhoi yn brydlon. Os bydd rhoddion rhyw wraig weddw yn cael son am danynt yn y nefoedd, tybiwyf yn sicr y bydd rhoddion y chwaer yma, gan yr oeddynt yn tarddu oddiar gariad at achos y gwaredwr.

Dydd Sadwrn canlynol hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Soar, i aros cael tywydd mwy ffafriol i'w chludo i fynwent Proscaeron i'w chladdu yn ymyl ei gŵr a'i pherthynasau. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. J V. Jones, J. Jones a'r ysgrifenydd.
J. K. ROBERTS.

Y Drych ~ 29ain Ebrill 1875.