MRS. GWEN P. THOMAS, ARENA, IOWA COUNTY, WISCONSIN.

Ionawr 8fed, 1875, o glefyd y galon, Gwen P., anwyl briod Mr. John P. Thomas, Arena, Iowa County, Wisconsin, yn 57 mlwydd oed.

Merch ydoedd i William a Jane Jones, Ty'n'rynys, Festiniog, Gogledd Cymru. Yn 1844 ymunodd mewn priodas a John P. Thomas, ac yn fuan wedi hyny daeth hi a'i phriod drosodd i'r America. Wedi arosiad byr yn Nhalaeth Penna., daethant i swydd Iowa, Wisconsin, lle maent wedi bod yn cartrefu er hyny - y rhan fwyaf o'r amser yn Dodgeville, wedi hyny yn ardal y Blue Mounds, a'r wyth mlynedd diweddaf yn Arena.

Cafodd y chwaer hon ei dwyn i fyny mewn ymarferiadau moesol. Bu yn aelod ffyddlon gyda'r M. C. nes i'r teulu symud i'w cartref presenol, pryd yr ymunodd a'r Cynulleidfawyr Seisnig, yr unig eglwys yn y lle. Gellir dweyd yn ddibetrus am dani, ei bod yn Gristion cywir, ac yn un o'r cymydogion goreu, fel y tystia pawb a'i hadwaeuai. Yr oedd hi yn caru ei chymydogion, a'i chymydogion yn ei charu hithau. Yr oedd yn un wir dawel a heddychol, a phob amser yn gofalu am ei hachosion ei hunan. Yr oedd ei gwyneb bob amser yn siriol tuag at bawb.

Er na fu ei chystudd ond byr, yr oedd yn ymwybodol ei bod yn myned, a gwynebai yr amgylchiad gyda'r tawelwch mwyaf. Trefnodd ei thŷ, a bu farw a'i phwys ar ei Hanwylyd. Gadawodd briod a thri o blant, dau fab ac un ferch (sef Mrs. William. H. Jones, Druggist, Arena), a lluaws o gymydogion a chyfeillion cynes, i alaru ar ei hol. Ein gweddi, ar ran ei phlant, a'i phriod galarus, yn ei unigrwydd, yw am iddynt gael cymorth i dewi, yn ngwyneb yr amgylchiad, a gras i ddilyn ôl ei throed, fel y byddont yn barod i'w chyfarfod mewn gwlad well.

Sabboth y 10fed daeth tyrfa luosog i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd yn y capel ae wrth y bedd gan y Parch. David Jones, gweinidog y lle. Heddwch i'w llwch.

Y Drych ~ 4ydd Chwefror 1875.