MR. JOHN J. THOMAS, CAROG, BETHEL, REMSEN, ONEIDA CO, NEW YORK.
Mai 16eg, yn 75 mlwydd oed, John J. Thomas, Carog, Bethel, E.N. Daeth ef a'i frodyr a'i chwiorydd i'r wlad hon flynyddau lawer yn ôl o Carog, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ond y maent wedi marw oll. Ein brawd oedd y diweddaf.Yr oedd yn wael trwy y gauaf diweddaf; er hyny nid oedd neb yn meddwl ei fod mor agos i'w ddiwedd. Yr oedd yr ysgrifenydd yn cysgu yn y tŷ nos Sadwrn, a siaradai yn siriol, a chododd yn fore bore Sul, ond haner nos yr un dydd ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes. Yr oedd ein brawd yn hen grefyddwr, a bu yn ffyddlon iawn gydag achos Duw hyd y diwedd.
Duw a ofalo am ei weddw a'i blant sydd yn galaru ar ei ôl.
Claddwyd ef dydd Mereher canlynol yn monwent Bethel, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Morris Roberts, D. Williams (T. C.) a chan.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1875.
MR. JOHN J. THOMAS, CAROG, BETHEL, REMSEN, ONEIDA CO, NEW YORK.
Mab John Thomas a Catherine Ellis o Carrog ym mhlwyf Bryncroes.Priododd John gyda Ann Williams, a gellir gweld yng nghofrestr priodasau Eglwys Bryncroes ar 8/12/1821 John Thomas o blwyf Bryncroes yn priodi Ann Williams o blwyf Bryncroes.
Ganwyd Ann ar 29 Mawrth 1801, merch William a Jenette Gabriel.
Yn 1828 ymfudo i America.
Ganwyd iddynt naw o blant ond yr oedd saith ohonynt wedi marw o flaen eu rhieni. Un mab, John ac un ferch Jochebed a fu fyw ar ôl eu rhieni.
Buont yn byw yn Efrog Newydd am rai blynyddoedd, ac wedyn prynu fferm yn Boonville.
Oddiwrth cyfrifiadau yr Unol Daleithiau gellir gweld fod John yn berchen 130 erw o dir, 100 erw yn cael ei drin a 30 erw o dan goed. Ar y tir 'roedd yn cadw 4 caffyl, 13 buwch odro, 2 ychen yn gweithio, 4 o wartheg ieuanc, 19 dafad a 3 mochyn. 'Roedd yn tyfu ychydig o wenith, haidd ac india corn, ond y prif gnwd oedd ceirch, ac yr oedd ganddo 120 hobaid o geirch yn 1870.
Bu John J Thomas farw ar 16ed Mai 1875 yn 75 oed.
Bu Ann Thomas farw ar 19eg Medi 1886 yn 85 oed.
Claddwyd y ddau ym mynwent Capel Bethel, Remsen.
Glyn Roberts ~ Medi 2021.
MR. JOHN J. THOMAS, CAROG, BETHEL, REMSEN, ONEIDA CO, NEW YORK.
In the name of God, Amen.I John J. Thomas of the town of Boonville, County of Oneida, State of New York, being of sound mind and memory and considering the uncertainty of this frail and transitory life, do therefore make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament, that is to say.
First. After all my lawful debts are paid and discharged I give and bequeath to my wife Ann Thomas so long as she remains my widow, after my decease, the use of all my property, to have and control as long as she lives, at which time, I give and bequeath to my grandson Albert Henry Thomas the sum of one thousand dollars, also one feather bed and bedding and one bureau.
I give and bequeath to my daughter Jacabh Sarah Thomas the sum of three thousand dollars (3000).
I give and bequeath to my son John William Thomas the sum of five hundred dollars.
I also give, devise and bequeath to my beloved wife Ann Thomas all the rest and residue of my real estate and personal property to have and dispose as she may think best.
I do nominate and appoint my beloved wife Ann to be the sole Executrix of this my last Will and Testament hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof I have hereunto subscribed my name and affixed my seal the 27th day May in the year of our Lord one thousand eight hundred and seventy five.
John J. Thomas.
The above written instrument was subscribed by the said John J. Thomas in our presence, and acknowledged by him to each of us, and he at the same time declared the above instrument, so subscribed, to be his last Will and Testament and we, at his request, have signed our names as witnesses hereto and written opposite our names and our respective places of residence.
John M McClusky Boonville Oneida County.
William McDonald Boonville Oneida County.