MRS. JANET WILLIAMS, WESTERNVILLE, NEW YORK.

Mawrth 4ydd, 1875, yn Westernville, New York, Mrs. Janet Williams, priod James R. Williams, yn 43 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Robert a Jane Jones, o Ffridd, Mylldeyrn, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn 1851, a phriododd yn y flwyddyn ganlynol. Buont yn cartrefu am ysbaid yn agos i Turin, Lewis County, ond symudasant oddiyno tua deng mlynedd yn ôl i Westernville.

Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei hol.
UN O'R TEULU.

Y Drych ~ 29ain Ebrill 1875.