MR. NATHANIEL WILLIAMS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Chwefror 11eg, 1875, yn Utica, Oneida County, New York, yn 50 mlwydd oed, Nathaniel Williams.

Mab ydoedd i Mr. Rowland Williams, o'r ddinas hon, yr hwn sydd eto yn fyw, ac yn adnabyddus iawn i'r Cymry, wedi byw yma 57 o flynyddoedd.

Daeth i America o Lanuwchllyn, Merionydd. Gadawodd Nathaniel Williams wraig ac un ferch fach; ac mae Mrs. Williams yn chwaer i'r Anrhydeddus Ellis H. Roberts o'r Morning Star.

Y Drych ~ 18fed Chwefror 1875.