MRS. JANE BOWEN, JUKA, MARION COUNTY, ILLINOIS.

Yn Juka, Marion County, Illinois, Jane Bowen, priod Mr. Morgan Bowen, o'r lle uchod.

Yr oedd yn enedigol o Llanuwchlyn, Gogledd Cymru, ac yn chwaer i Mr. David S. Williams, gynt o New York Mills. Y mae iddi ddau frawd yn byw yn Whitestown, New York, sef William S. a Stephen S. Williams.

Y Drych ~ 29ain Mehefin 1876.