MR. WILLIAM EARDLEY, MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Awst 29ain, 1876, yn Middle Granville, New York, yn 41 mlwydd oed, Mr. William Eardley. Ei glefyd ydoedd congestion of the lungs.

Awst 31ain ymgynullodd tyrfa o gyfeillion yr ymadawedig i hebrwng ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref. Cafodd gladdedigaeth hynod drefnus a pharchus, pryd y gweinyddwyd yn hynod effeithiol gan y Parch. H. Davies.

Gadawodd Mr. Eardley weddw a phump o blant bach amddifaid ar ei ôl, yr hynaf dim ond naw mlwydd oed, Rhagluniaeth fawr y nef fyddo yn dyner o'r trueiniaid diamddiffyn.

Genedigol o Fangor, Gogledd Cymru, ydoedd fy nghyfaill, lle mae iddo amryw berthynasau yn byw yn bresenol. Yr oedd o dymer siriol a chyfeillgar, ac yn un a fawr gerid gan ei gydnabod. Yr oedd hefyd yn un o'r cantorion goraf a glywais erioed. Yr oedd ei lais wedi ei ddysgyblu yn dda, ac yr oedd yn hynod fedrus fel darllenwr.

Teimlir colled fawr ar ei ôl, yn enwedig yn nghor capel y T. C. Bydded dawel dy hun, fy mrawd, chwythed yr awel yn dyner dros dy wely clyd, mangre a fydd i mi yn gysegredig weddill fy oes. Os yw calon fawr garedig, parod i gydymdeimlo a'r trallodedig, ac i weinyddu i gyfreidiau rhai mewn angen, yn adlewyrchiad o galon fawr "y dyn Crist Iesu" (fel y credwyf ei bod), diau fod dy lais mwyn yn gymhlethedig a lleisiau mil pereiddiach, ac yn chwyddo mewn cynghanedd anfeidrol berffeithiach na dim a glywaist yma.

Anwylach priod, tynerach tad, cywirach cyfaill, a mwy cymwynasgar cymydog, ni fu erioed yn nod i saeth y "gelyn diweddaf" nag oeddyt ti. Ffarwel fy nghyfaill.
R. W. JONES.

Y Drych ~ 14eg Medi 1876.