CATHARINE ROBERTS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gwrthrych ein cofiant ydoedd ferch i Mr. John ac Ann Roberts, Crigiau, Steuben.

Ymfudodd Catharine gyda'i rhieni i'r wlad hon o lle a elwir Crigiau, plwyf Llanfaelrbys, swyd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1800. Tiriasant yn Philadelphia, ac yno yr arosasant am ychydig fisoedd - yna ail gychwynasant i ddyfod i fyny i Steuben. Ar eu dyfodiad yma nid oedd ond chwech o deuluoedd Cymreig yn y lle; a'r wlad yn wyllt ac anhygyrch iawn. Ond er yr holl anfanteision penderfynasent i weithio eu ffordd yn mlaen. Prynasant dyddyn, a thrwy lafur caled a chynildeb talasant am dano a hyny yn lled fuan.

Yn Rhagfyr, 1808, priodwyd hi â Timothy Griffith, ysw., Steuben, yr hwn a gyfarfyddodd a'i farwolaeth drwy gael ei daraw gan yr apoplexy pan oedd ar ei liniau yn gweddio mewn cyfarfod gweddi yn Capel Uchaf, Steuben, tua 36 mlynedd yn ôl.

Bu iddynt 9 o blant, 7 o ba rai sydd yn fyw yn bresenol ac mewn amgylchiadau cysurus.

Yn y flwyddyn 1824, derbyniwyd hi i gymundeb Eglwys Gyuulleidfaol Steuben, gan y Parch. Evan Roberts, a pharhaodd ei pherthynas hyd ddydd ei hymddatodiad, am ysbaid 52 o flynyddau. Clywais hi yn dyweyd fwy nag unwaith ei bod yn cofio yn, dda er mai ieuanc ydoedd, y bregeth Gymreig gyntaf adraddodwyd yn Steuben, mewn hen ysgubor wael perthynol i 'Squire Weeks yn agos i Ty Coch, gan pregethwr o'r enw Mr. Harris. Teimlodd yn hapus o dan y bregeth hono ac arosodd gyda hi am fisoedd lawer.

Am yr ugain mlynedd diweddaf o'i hoes bu yu byw gyda'i dwy fercb yn ymyl y capel, yr hyn oedd yn fantais fawr iddi yn ei henaint, er cael gwleddoedd Seion. Hi ydoedd yn gofalu am lanhau, goleuo, a.y. yr addoldy er's llawer o flynyddoedd, yn yr hyn beth y dangosodd ffyddloudeb mawr. Hefyd yr oedd ei tbŷ bob amser yn rhydd i dderbyn gweinidogion a phregethwyr yr efengyl; na chawsant yn aml eu diwallu oddiar ei bwrdd gyda chalon rwydd ac ewyllysgar.

Nid oedd erioed wedi eael ei blino gan un afiechyd neillduol. Yr oedd ei chorff yn naturiol gryf, a chafodd y fraint o fyw hyd nes i natur wisgo hwnw allan. Dydd Mawrth Ebrill 18fed aeth i gladdedigaeth un o'i hen gyfeillion, sef Mrs. Jane Owens, Trenton, ac yno trwy fod y ddaear yn wlyb cafodd anwyd trwm yr hyn a drodd yn pneumonia arni, fel er pob ymdreeh o eiddo meddygon y rhoddodd derfyn ar ei heinioes Ebrill 22ain, 1876, pan oedd yn 86 mlwydd oed. Cafodd ddau ddiwrnod o gystudd caled, ond dyoddefodd y cyfan yn eithaf tawel. Dydd Mawrth canlynol daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion, marwol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Morris. J. Williams (B.), John D. Jones (M. C), Morris Roberts ac R. Evans, Remsen, William D. Williams,, Deerfieíd, a'r ysgrifenydd. Rhoddwyd ei chorff i orwedd yn ochr ei phriod yn mynwent y Capel Uchaf hyd nes bydd

"Holl ddorau beddau'r byd
Ar un gair yn agoryd."

Sylwn yn awr ar rai o lawer o ragoriaethau oedd yn perthyn i'r chwaer hon sydd yn deilwng o goffadwriaeth ac efelychiad. Diau fod ffaeleddau yn perthyn iddi fel pawb eraill, "Oblegid mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro," ond eto, credwn fod ei rhinweddau yn gorbwyso ei holl ddiffygion.

Yr oedd yn hynod am ei dirodresrwydd a'i gwroldeb. Dywedai ei meddwl yn onest pan y byddai hyny yn angenrheidiol heb betruso dim. Hefyd ymddangosai mai ychydig iawn o ofn dynion oedd arni.

Fel gwraig. Dywed y rhai oedd yn ei hadnabod ei bod yn ymgeledd gymwys i'w gŵr - yn ddiwyd, cynil, a llafurus yn ei gwahanol orchwylion bydol.

Fel mam. Yr oedd yn dyner, ac yn ofalus; er iddi gael ei gadael yn weddw am lawer o flynyddau gydag 8 o blant, eto gwir ofalodd am danynt, a dysgodd hwynt yn egwyddorion crefydd Crist.

Fel cymydoges. Ystyrid hi yn un heddychlawn, ac yn hynod o'r caredig. Byddai yn well ganddi wneud cymwynas na gofyn am un. Pe dygwyddaì rhywun dyeithr fyned i'w thŷ un o'r pethau cyntaf a ofynai fyddai, Pa bryd y cawsoch chwi fwyd? Ni chai neb fyned oddiyno a'i gylla yn wag, oa byddai hi yn gwybod.

Fel Cristionoges. Yr oedd yn onest a diragrith, ac nid yn aml y gwelwyd ei ffyddlonach. Gellir dyweyd am dani, "Yr hyn a allodd hon hi a'u gwnaeth." Ymdrechodd ymdrech deg, a chadwodd y ffydd, gan orphen ei gyrfa mewn llawenydd. Gofynais iddi yn amser ei chystudd pa fodd; yr oedd yn teimlo, "Ni frysia yr hwn a gredo" meddai; bryd arall dywedai,

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen."

Oddeutu tair awr cyn iddi farw gofynwyd iddi a ddymunai fyned i'r nefoedd at ei hanwyl briod? "Leiciwn yn fy nghalon," oedd yr ateb. Ni ddywedodd ond ychydig ar ôl hyn, er ei bod mewn perffaith hunanfeddiant hyd y mynyd diweddaf. Hunodd yn dawel yn yr Iesu. Boed heddwch i'w llwch i orphwys mewn tawelwch hyd foreu mawr caniad yr udgorn.
E. R. H.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1876.


CATHARINE GRIFFITHS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I Catherine Griffiths, widow of the late Timothy Griffiths of Stuben, Oneida County, State of New York, of the age of 84 years being of sound mind and memory do make and publish this my last Will and Testament in manner following.

I give and bequeath all my estate both real and personal of every name and nature (after payment of all my just debts and the erection of a suitable tomb stone at my grave) to my daughters Carloun Griffiths and Laura Griffiths, should either one of them die before my decease then in that case the whole estate shall go to the surviving one.

Ans Lastly. I do hereby nominate and appoint Didymus Thomas of Remsen to be the sole Executor of this my last Will and Testament, hereby revoking any and all Wills heretofore made by me.

In Testimony whereof and hereunto set my hand and seal and publish and declare thid to be my last Will and Testament in presence of the witnesses named below this 8th day of June 1874.

Signed, selaed, delivered and published by the said Catharine Griffiths as and for her last Will and Testament in presence of us who at her request and in her presence and in the presence of each other have subscribed our names as witnesses thereto.
W. W. Thomas residing at Remsen Oneida County.
Didymus Thomas residing at Remsen Oneida County.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.