MRS. LAURA HUMPHREY, BANGOR LA CROSSE COUNTY, WISCONSIN.

Merch Robert a Jane Jones, Tir Rhos, Llangwnadl.

Priodi gyda Griffith Humphrey o Aberdaron yn Eglwys Llangwnadl ar 31/5/1813. Byw yn a ffermio Tir Rhos am gyfnod ac yna ymfudo i'r America yn 1840.

CAN NEWYDD.
A gyfansoddwyd ar ymadawiad Griffith Humphrey ynghyd a'i deulu i America, o wlad eu genedigaeth, sef o Blwyf Llangwnadle yn Lleyn. Swydd Gaernarfon, mewn dull o ymddyddan rhwng y bardd ar teithwyr, Gorphenaf 3ydd 1840.

Teithwyr.
'Nawr yr y'm yn canu ffarwel,
I wlad Cymru'n llawen iawn,
I'r America'r y'm yn myned,
Gadael Ffrindiau gorau gawn.

Bardd.
Gadael brodyr a chwiorydd,
A pherthnasau annwyl cu,
Myned ymaith dros y wendon,
Ar ddyfnderoedd mwyaf du.

I blith amryw o ddynolryw,
Mwy o liwiau heb leihad,
Heb ystyried am yr oediad,
Ac am annwyl dy eich Tad.

Fe ddaw hiraeth 'rwyf yn credu,
Bydd mawr wylo yn y man,
Pan yn cofio am y cymod,
A'ch cym'dogion ar bob cam.

Teithwyr.
Wele'r brodyr a'r chwiorydd,
Rhaid yw myned tua thre,
I'r Americ lle rhyfeddawg,
O dan lywydd y Duw Ne.

Yno byddwn ac y tariwn,
Am rhyw enyd is y rhod,
Mewn tir gwastad, mwyn diysgog,
Y man gorau gaed erioed.

Rhwng dyffrynoedd caeau gwychion,
Gyd a'r dolydd mwy na rhi,
Lle mae adar man yn canu,
Yn drydar iawn o bob rhyw du.

Bardd.
O'r wlad dyner fwyn a'ch magodd,
Goreau ydyw dan y Ne.
Nid oes ail i hon trwy'r holl-fyd,
Mwy nag un estronawl le.

Y wlad anwyl fwyn rinweddol,
Lle mae dynion hardd eu llun,
'N perarogli mynydd Seion,
Bob rhyw amser yn gytun.

Ni chewch chwithau Lowry Humphreys,
Ar ol myned dros yr aig,
Un gyfeillach byth yn 'chwaneg,
A neb yng nghapel Pen-y graig.

Teithwyr.
Ni a wyddom ein bod yn myned,
I estronol wlad yn siwr,
Ond er hynny nid gwaeth hono,
Na gwlad Cymru fawr ei stwr.

Ac er gadael mwyn gyfeillion,
Teulu Seion oll i gyd,
Y mae eto i ni obaith,
Y cawn gwrddyd mewn ail fyd.

Ar ol darfod ein blinderau,
A'n helbulon oll i gyd,
Yn Americ y lle hyfryd,
Cawn weddio Duw o hyd.

Bardd.
Er ei stwr ynghyd a'i storom,
Cofiwch hyn, bydd chwith i chwi,
Bydd, rai mwynion, ar ol 'madael,
O'i chyffiniau anwyl hi.

Os does blinion ddynion ynddi,
Mae rhyw gwmni mawr yn bod,
Llawer un mi wn sy'n wylo,
Am ei gadael hi erioed.

Gwedi gadael Cymru dirion,
A'i mynyddoedd hawddgar hi,
A gwynebu tir Americ,
Nawr fe red eich dagrau'n lli.

Teithwyr.
Er gan hardded yw gwlad Cymru,
Harddaf man yw Lleyn o'r bron,
I'r Americ'r y'm yn myned,
Gan obeithio llwydd yn hon.

Y mae llawnder o lawenydd,
Yno'n aros wrthym ni,
Yn lle prinder gawsom yma,
Hir flynyddau gyda chwi.

A thrwy gariad y Duw Nefol,
Ry'm yn disgwyl oll i gyd,
Y cawn iechyd yno'i aros,
A da fwyniant yn y byd.

Yn y wlad o faeth yn llifo,
Ar ei dolydd tyner hi,
Ry'm yn disgwyl cael eich gweled,
Yno'n aros gyda ni.

Wel da boch, rhaid yw ymadael,
Ffrindiau anwyl oll a ni,
Tros y moroedd rhaid yw myned,
A chan ffarwel 'nawr i chwi.
W. P. Wms. Madawg.

Bu Griffith Humphrey farw yn 1851 ac mewn ychydig amser symydodd Laura Humphrey a rhai o'r plant i Bangor yn Swydd La Crosse, Winsconsin.

Bu Laura Roberts Humphryes farw yn 1876 ac mae ei gweddillion wedi eu claddu ym mynwent Fair View, yn La Crosse.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.


MRS. LAURA HUMPHREY, BANGOR LA CROSSE COUNTY, WISCONSIN.

Mai 9fed, 1876, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. D. R. Davies, Bangor, Wisconsin, bu farw mewn tangnefedd heddychol ein hen chwaer Mrs. Laura Humphreys, yn 83 mlwydd a 4 mis oed. Yr oedd y chwaer hon wedi derbyn a mwynhau cynwys deublyg yr addewid hono— "Digonaf ef â hir ddyddiau, a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Ganwyd hi Ionawr 6ed, 1793, yn mhlwyf Llangwnadl Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei thad, Mr. Robert Jones, yn ŵr duwiol, ac yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn Mhenygraig, Swydd Gaernarfon. Ymddengys ei bod hi wedi cychwyn ei gyrfa ar adeg pryd yr oedd cryn wrthwynebiad yn mhlith y Methodistiaid i blant gael eu dwyn i fyny yn yr eglwys, ac yr oedd ei thad yn wrthwynebol iawn i hyny, oblegid clywodd ef yn dyweyd unwaith wrth ei mam, ar ôl dychwelyd o gyfarfod misol, y byddai mwy o ragrithwyr yn yr eglwys o hyny allan nag a fu erioed, am fod y brodyr yn y cyfarfod misol hwnw wedi caniatau i blant gael dyfod i'r seiat. Ond er na chafodd ein hen chwaer y fraint o'i dwyn i fyny yn yr eglwys, mae yn amlwg ei bod wedi cael ei dwyn i fyny yn grefyddol, a'i maethu yn dda pan yn blentyn yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

Pan yn lled ieuanc, ymunodd mewn priodas ag un o'r enw Mr. Griffith Humphreys, yr hwn hefyd oedd ŵr crefyddol, a ffyddlawn gydag achos yr Arglwydd Iesu, a bu iddynt ddeg o blant, pedwar o'r rhai sydd wedi meirw, ac y mae y chwech sydd yn fyw yn aelodau gweithgar a diargyhoedd o eglwys Crist.

Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1840, sefydlasant yn gyntaf yn agos i Prospect; ac wedi hyny yn Ninety-Six, Swydd Oneida, New York, yn yr hwn le y bu y priod a'r tad farw, Ionawr 19eg,1851. Yr oedd colli ei phriod a dau o'i phlant yn Swydd Oneida wedi cael argraff dwfn ac arosol ar feddwl ein hen chwaer, ac yr oedd yn amlwg oddiwrth ei phrofiadau crefyddol fod y cymylau duon oedd wedi gorchuddio ei ffurfafen deuluaidd wedi bod yn foddion i ddwyn bwa cyfamod Duw i olwg ei meddwl yn fwy eglur nag erioed; a pheth cyffredin oedd ei chlywed yn adrodd profiad tebyg i eiddo Dafydd - "Er nad yw fy nhy felly gyda Duw, eto cyfamod tragywyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr, canys fy holl iachawdwriaeth a'rm holl ddymuniad yw."

Ar ôl marwolaeth ei gŵr, bu Mrs. Humphreys fyw am rai blynyddoedd yn Utica. Yr oedd wedi symud i'r Dalaeth a'r ardal hon er's tua phedair-blynedd-ar-ddeg gan wneyd ei chartref gyda'i phlant, ac yn benaf yn y teulu lle y bu farw.

Gallem feddwl, oddiwrth hyny o fanteision a gawsom i'w hadnabod, mai prif nodwedd cymeriad crefyddol yr hen chwaer oedd ffyddlondeb. Bu yn ffyddlon hyd angeu yn ystyr helaethaf y gair. Er fod yr hen gorph, neu y dyn oddi allan, yn llygru ac yn adfeilio yn brysur er's rhai misoedd cyn ei marwolaeth, yr oedd y dyn oddi mewn yn adnewyddu o ddydd i ddydd, yn ei awydd am ddyfod i'r moddion cyhoeddus ar y Sabbothau, a'r cyfarfodydd neillduol yn yr wythnos, pa mor oer neu arw bynag fyddai yr hîn. Yr oedd ei hawydd a'i syched am gymdeithas â Duw a'i bobl yn y cysegr yn gymaint, fel yr oeddym yn barod i feddwl weithiau ei bod hi yn rhy ffyddlawn, neu yn ymylu ar fod yn gwneyd cam â hi ei hun. Ac wedi i'r hen gorph fyned yn rhy wan i'w chario i'r addoldy, yr oedd ei ffyddlondeb yn dyfod i'r golwg yn ei gwaith yn dal cymundeb â Duw trwy ddarllen a gweddio gartref. Nid peth cyffredin oedd ei gweled hi yn y tŷ heb un llyfr yn ei llaw, ond peth anghyffredin iawn ydoedd. Ei phrif lyfrau oeddynt y Beibl, a Gwaith y Prynedigaeth, gan Jonathan Edwards; a'r gair olaf a ddywedodd oedd gofyn am y Beibl a'i spectacles; a darllen yr hen Lyfr yr ydoedd pan y cafodd ei tharaw gan y parlys, yr hyn yn mhe ychydig ddyddiau fu yn angeu iddi.

Yr oedd peth arall hefyd yn nghymeriad crefyddol Mrs. Humphreys ag sydd yn werth i hen ac ieuanc ei hefelychu ynddo, sef ei gwaith yn cymeryd yr holl Feibl fel llyfr iddi ei hunan. Yr oedd cyfraith, prophwydi a salmau yr Hen Destament yn rhanau ag yr oedd hi yn cael llawer o nerth a chynaliaeth ysbrydol o honynt wrth eu darllen a'u myfyrio; ac nid oedd yr un gorchymyn, addewid na phrofiad yn yr holl Feibl nad oedd hi yn edrych arno, a'i gymeryd fel peth personol iddi ei hun.

Mae yn wir ei bod, fel yr hen yn gyffredin, yn byw gryn lawer gyda'r gorphenol, a chyda'r hen bethau gynt; ond gyda hen bethau Duw yr oedd Mrs. H., ac nid gyda hen bethau dynion. Yr oedd hi yn adnabod yr hwn sydd o'r dechreuad.

Claddwyd hi yn barchus yn mynwent Bangor, a gweinyddwyd gan y Parchn. Owen Jenkins, David Hughes a'r ysgrifenydd. Pregethwyd pregeth angladdol iddi yn Bangor a Fish Creek, ar destyn o'i dewisiad ei hun, sef y geiriau hyny - "Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele mi a osodaf dy geryg di â charbuncl, ac a'th sylfaenaf â meini saphir." - Esa. 54: 11.
H. MEURIG PUGH.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1876.