MR. JOHN PRICHARD, REMSEN, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Ebrill 12fed, claddwyd yn mynwent y Trefnyddion Calfinaidd yn Mhen-y-caerau, yn 43 oed, John, mab Hugh Prichard, Remsen.Yr oedd y trangcedig yn fud a byddar.
Daethai gyda'i rieni i'r wlad yma o Ynys Enlli; ac yr oedd yn un o'r rhai a achubwyd ar yr amser coffadwy, pan y drylliodd y cwch yn ymyl yr ynys.