MR. JOHN R. JONES, FAIRVIEW, ALLEGNU COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 22ain, 1876, yn Fairview, Allegeny County, New York, John R. Jones, yn 41 mlwydd a 5 mis oed.Brodor ydoedd yr ymadawedig o Llanllyfni, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn fab i Robert Jones, Ffordd Haiarn.
Ymfudodd i'r wlad hon ers tua deuddeg mlynedd yn ôl. Teithiodd lawer ar y wlad eangfawr hon, a bu am rhai blynyddau yn California, a threuliodd y ddwy flynedd olaf o'i oes yn Penrhyn California.
Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yn mis Mawrth diweddaf dychwelodd o wlad yr aur yn wael iawn ei iechyd at ei chwaer sydd yn byw yn Fairview, a pharhaodd i waethygu yn gyflym hyd ddydd ei farwolaeth.
Yr oedd ein cyfaill o ran ei nodwedd naturiol yn hynaws a charedig. Cafodd ei ddwyn i fyny o dan aden y Methodistiaid. Yr oedd tra yma yn hoff iawn o ganu, ac hyderwn ei fod yn awr yn canu yn uwch a phereiddiach nac erioed o'r blaen.
Claddwyd ef yn mynwent capel y Bedyddwyr yn Freedom, Cattaraugus. Gweinyddwyd yn yr angladd gan Mr. John Morris, M.C. Teimlir hiraeth mawr ar ei ôl gan gylch eang o gyfeillion a pherthynasau. Gofaled yr Arglwydd yn dyner am y perthynasau ag sydd mewn galar dwys ar ôl colli un a gerid mor fawr ganddynt.
W. M. EVANS.