MRS. MARTHA JONES, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mehefin 10, 1876, yn Columbus, Wisconsin, Mrs. Martha Jones, priod Mr. Evan P. Jones, Coed-tyno, o'r darfodedigaeth, yn 35 mlwydd oed.Merch ydoedd i John Roberts, Tyddyn-y-berth, Llanddeiniolen, G. C. Bu ei mam farw pan oedd tuag 8 mlwydd oed.
Ymfudodd i America pan yn 13 oed, gyda'i chwaer, a John Parry, Portage Prairie, priod ei chwaer.
Yn Mawrth, 1860, priododd, yn ardal Columbus, lle y bu fyw hyd ddiwedd ei hoes, oddieithr rhyw bedair blynedd y bu y teulu yn Minnesota. Yr oedd yn wanaidd ei hiechyd ers blynyddau, ac felly yn neillduol y flwyddyn ddiweddaf, a tua'r Nadolig aeth i fethu gwneyd dim ond braidd o'r gwely i'r gadair. Bu am y mis olaf yn rhodio mor agos i afon angeu ag na wyddai y cyfeillíon na'r meddygon pa ddiwrnod y disgynai iddi, ac ar y dydd crybwylledig llithrodd yn dawel dros y geulan.
Fe'i magwyd gyda chrefydd, ac felly y treuliodd ei hoes hyd y diwedd. Nid oedd yn gwneyd arddangosiadau mor gyhoeddus a rhai o grefydd; ond yn ei dull dystaw tawel ei hun, rhoddai dystiolaeth yn mhob cydwybod ystyriol mai yr Iesu oedd ei chyfaill, mai ei haeddiant oedd ei gobaith, mai ei dy oedd ei chartref, ac mai ei egwyddorion a'i ysbryd oedd ei hawyrgylch. Yr oedd o duedd naturiol ddyoddefgar, dawel, siriol a charedig, ac yr oedd y nodwedd hwnw yn ei chrefydd, ac wedi ei sancteiddio gan grefydd. Ychydig a soniai am farw yn ei hwythnosau olaf; gallai fod gwenieithder y clefyd yn peri hyny, a thawai yn enwedig rhag poeni ei phriod na'i phlant; ond yr oedd yr awgrymiadau a roddai yn ei dull ei hun yn glir iawn. "Mae arnaf flys canu," meddai un noswaith, "ond ni wnafyn awr." Yr oedd yn rhy wan. Gofynwyd iddi dranoeth pa benill oedd am ganu? " Iesu, Iesu, wyt ti'n ddigon," meddai hithau.
Dywedai yn fynych nad oedd ganddi neb ond Iesu. Yn yr olwg ar ei hymadawiad hyderus, canai un o'i chyfeillion fel hyn; "Byth ni frysia'r hwn a gredo," Felly d'wedai hithau'n glir, Ac yn siriol, heb betruso Nad oedd bell o'r Ganaan dir; Y mae cariad fel yn tynu Nef a daear bron yn un, Ac yn gwneyd y ffordd sydd rhyngddynt Fel rhyw gam i'r duwiol ddyn.
Prydnawn y 12fed, hebryngwyd ei rhan farwol i fyn- went Bethel, gan nifer mor luosog o gyfeillion ag a wel- wyd braidd mewn un cynhebrwng yn yr ardal, agwein- yddwyd ar yr achlysur gan y brodyr cartrefol.