MRS. MARY JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ar ddydd Gwener, Medi 15fed, bu farw y chwaer anwyl uchod, yn 74 mlwydd oed, yn ninas Utica, Efrog Newydd. A chan ei bod yn un o ragorolion y ddaear, mae yn weddus, ac yn angenrheidiol, dyweyd gair yn mhellach am dani, nag yn unig groniclo ei marwolaeth.Merch ydoedd i Humphrey Roberts a Mary ei wraig, o'r Ty-uchaf, Llanarmon, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei thad yn bregethwr, a bu am flynyddau yn weinidog ar eglwys y Sandemaniaid yn Criccieth.
Yn y flwyddyn 1832, symudodd ef a'i deulu i'r wlad hon; ond gan fod gwrthddrych ein sylwadau wedi priodi, ac ymsefydlu yn y byd, arosodd hi ar ôl gyda'i phriod. Sefydlodd y teulu, ar ôl ei ddyfodiad yma, tua chymydogaeth Remsen, lle y prynasant fferm, a bu Humphrey Roberts farw yn mhentref Remsen, mewn oedran teg. Er ei fod yn ddyn da, a diau yn Gristion didwyll, eto yr oedd ei olygiadau crefyddol y fath, nad allai o gydwybod fwrw ei goelbren i blith un o'r eglwysi oedd yn ei ymyl. Ond er na ddarfu iddo ymuno yn ffurfiol ag un eglwys yn ystod ei arosiad yma, ymdrechodd, er hyny, i fyw yn grefyddol, yn ôl ei olygiadau am ei ddyledswydd tuag at Dduw a dyn.
Clywodd yr ysgrifenydd droion fod H. Roberts yn ddyn o alluoedd meddyliol cryfion iawn, a'i fod yn hynod am ei wybodaeth helaeth o'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Yr ydym yn dyweyd cymaint a hyn am dano er dangos fod y plant wedi eu dwyn i fyny i ddeall a pharchu y Gair dwyfol o'u mebyd.
Crybwyllasom fod Mary wedi priodi yn Nghymru. Enw ei gŵr oedd Robert Thomas, Ty-yn-y-nant, Llanllyfni, yr hwn oedd ddyn a fawr berchid gan ei gydnabod. Bu iddynt chwech o blant; ond bu Mr. Thomas farw, gan adael ein chwaer i ofalu am ei theulu bach lluosog. Yr oedd hwn yn ergyd caled iawn, ond nid hollol ddiles, canys bu yn foddion, mewn rhan, i'w dwyn i bwyso ar Farnwr y weddw a Thad yr amddifaid, a hi a'i cafodd yn llanw ei addewid yn dymorol ac yn ysbrydol. Gwnaeth hithau yn y cyfnod hwn broffes gyhoeddus o hono fel Ceidwad ei henaid.
Bedyddiwyd hi gan y Parch. Robert Jones, Llanllyfni, tua'r flwyddyn 1840, ac ymunodd a'r eglwys dan ei ofal; dyna'r pryd yr ymaflwyd ynddi gan Grist, ac nis gollyngodd ei afael nes ei chludo adref i dangnefedd. Nid hir iawn fu ei harosiad yn ngwlad ei genedigaeth ar ôl hyn, oblegid yn 1841 casglodd ei hychydig eiddo at ei gilydd, ac yn nghwmni ei hamddifaid bychain cychwynodd am wlad y Gorllewin, a glaniodd yn ddiogel, gan gael ei rhieni yn llwyddianus eu hamgylchiadau yn eu cartref newydd. Nid hir y bu yma cyn i Morris Jones, yr hwn oedd amaethwr cyfrifol yn Steuben, weled fod ynddi rinweddau neillduol i wneyd gwraig werthfawr.
Ymbriodasant, a chyn hir cawn hwy yn gadael Sir Oneida am ddyffryn bras a chynyrchiol Attica, yn Sir Wyoming, yn y Dalaeth hon. Gan fod y ddau yn grefyddol, rhoddasant eu hunain yn aelodau o eglwys y Bedyddwyr yn y lle. Bu tri o blant o'r briodas hon, un o'r rhai a fu farw mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd yn mrwydr waedlyd Cold Harbor, yn ystod y gwrthryfel.
Yn 1858, bu Morris Jones farw, gan adael ein chwaer yn weddw unwaith eto. A chan ei bod erbyn hyn yn dechreu teimlo pwys blynyddau ei hoed, a bod ganddi ddau o feibion yn fasnachwyr cyfrifol yn Utica, penderfynodd ddychwelyd yma i dreulio gweddill ei hoes. Rhoddodd ei hun yn aelod o eglwys y Bedyddwyr Cymreig ar ar Broadway, lle y bu yn ffyddlon a defnyddiol yn mhob ystyr, yn ol ei gallu a'i chyfleusderau. Perchid ac anwylid hi yn fawr gan yr holl frawdoliaeth, ac nid bychan yw'r galar sydd yn yr eglwys ar ei hol. Ac nid rhyfedd hyn, oblegid yr oedd ynddi lawer o rinweddau eglur. Yr oedd yn ddeallus yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd di-dwylledd ei chrefydd uwchlaw amheuaeth; yr oedd ei ffyddlondeb, hyd yn nod mewn henaint, yn deilwng o efelychiad rhai llawer ieuengach. Yr oedd yn hynod am ei phwyllder, ei harafwch, ei chariad at dangnefedd, ei thymer garedig a hynaws, a'i hymdrech i lesoli pawb o'i chwmpas. Felly yr oedd iddi air da gan bawb, yn gystal a chan y gwirionedd ei hun.
Cafodd gystudd mawr am wythnosau cyn ei marwolaeth. Dyoddefodd boenau dirfawr, ond yn hynod o amyneddgar; a phan ddaeth yr alwad yr oedd hi yn addfed i'r cyfnewidiad mawr. Nid oedd ystormydd geirwon cystuddiau, poenau dirdynol, na henaint, yn gallu siglo ei hymddiried yn ei Cheidwadyr oedd ei gafael yn rhy dyn. Cydiodd yn ei law Ef yn foreu, a thywysodd y llaw hono hi yn ei horiau olaf ar hyd llwybrau gwastadlyfn i lan yr afon, lle yr oedd tawelwch mawr yn teyrnasu; a phan ddaeth y foment iddi groesi drosodd, fe
"Hedodd ei hysbryd, heb loes nac ochenaid,
Fel baban yn cysgu yn ngwydd ei anwyliaid."
Cafodd fyw i weled ei phlant wedi cyrhaedd sefyllfaoedd cysurus mewn bywyd; mae tri ohonynt yn fasnachwyr cyfrifol yn y ddinas hon; ond yr hyn a wasgai fwyaf ar ei meddwl oedd eu cadwedigaeth dragywyddol. Am hyn y siaradai yn fynych a'r ysgrifenydd, a gwyddom ei bod yn arfer gweddio yn aml ac yn daer ar i Dduw roddi iddynt drysorau ysbrydol a'u gwnelai yn gyfoethog am byth. A phwy a wyr na fydd i'r had da a hauwyd yn ngwlith cyfnos bywyd, dyfu eto yn man yn gnwd toreithiog. Dylem grybwyll wrth ddiweddu hyn o nodion, iddi gael claddedigaeth parchus y Sabboth canlynol i'w marwolaeth.
Gweinyddwyd yn yr angladd, yn nhy ei mab hynaf, Thomas R. Thomas, ac yn y fynwent, gan y brawd J. Edred Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y brawd E. Edwards; ac ar brydnawn Sabboth, Medi 24ain, pregethodd y brawd Jones bregeth angladdol iddi yn eglwys y Bedyddwyr Cymreig, o'r hon yr oedd yn aelod, i gynulleidfa luosog o alarwyr. Pwy a leinw le y fam hon yn Israel?
Brawd.