MRS. MARY JONES, MARCY, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 4ydd, 1876, yn Marcy, ger Utica, New York, Mary, priod Mr. Rowland G. Jones, yn 77 mlwydd oed. Bu yn wael am oddeutu dwy flynedd, ae wedi nychdod blin ehedodd ei rhan farwol ymaith yr amser a nodwyd.Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn nghapel y Wesleyaid ar Ffordd yr Afon, gan y Parchn. H. Humphrey a D. T. Davies, Utica. Yn y fonwent wrth y capel hwnw y claddwyd hi.
Merch ydoedd yr ymadawedig i William ac Ann Williams, Ynys yr Arch, Clynog Fawr, yn Arvon. Ymbriododd â Mr. Rowland G. Jones, Tir Bach, yr Efail Newydd, ger Pwllheli, a symudasant i'r wlad hon yn 1812.
Hwyliasant o Garnarvon yn yr hen hwyl long Hindoo, ac yr oedd ynddi ar y pryd tua 400 o Gymry. Daethant yn mlaen i Utica ac yn fuan ymsefydlasant yn Marcy, ac yno y buont yn trigianu hyd yn bresenol.
Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw, un mab gartref gyda'i dad, a dau o feibion yn Sacramento, California.