MR. THOMAS JONES, DANIELSVILLE, PENNSYLVANIA.

Ionawr 20fed, 1876, yn Pennsylvania, Thomas Joes, Llanerchymoch, Blaenau Ffestiniog gynt, yn 82 mlwydd oed. Ganwyd ef yn nhref Caernarfon, a breintiwyd ef ag addysg yn foreu. Derbyniodd gyfran gan y diweddar fardd Dafydd Thomas (Dafydd Ddu Eryri) yn y Waenfawr. Pan yn 14oed symudodd i Lundain, lle y treuliodd saith mlynedd mewn masnachdy. Wedi dychwelyd bu yn gwasanaethu fel ysgolfeistr mewn amryw fanau yn Arfon a Meirion.

Ystyrid ef yn ysgolhaig o radd uchel yn ei ddydd, ac yn meddu barn dda; a da gan lawer fu cael ei gyngor a'i gyfarwyddyd mewn amgyichiadau dyrus. Bu yn llythyr-gludydd am 22 o flynyddoedd, yr hyn a'i gwnaeth yn bensioner am y gweddill o'i oes.

Symudodd i'r wlad hon oddeutu saith mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd gyda'i ferch yn Danielsville, lle y cafodd bob parch ac ymgeledd hyd ei fedd.

Gadawodd bedwar o blant i alaru ar ei ôl, un o'r rhai yw y Parch John Thomas (Ioan Era), Frostburgh, Maryland. Yr oedd yn aelod gyda'r M C., ac yn hen ŵr hynaws a boneddigaidd neillduol, a'i barch yn fawr gan bawb o'i gydnabod.

Claddwyd ef yn barchus y dydd Mawrth canlynol. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. John J. Griffiths, Danielsville, a John R. R. Jones, Slatington.

Y Drych ~ 17eg Chwefror 1876.