MR. OWEN E.LLOYD, FORESTON, HOWARD COUNTY, IOWA.

Ebrill 24, 1876 yn nhy ei frawd, Mr John Lloyd, yn ardal Foreston, swydd Howard, Iowa, yn nghanol ei ddyddiau ac yn dra disymwth, Owen E. Lloyd, yn 35 mlwydd a 2 fis oed.

Yr achos ydoedd, poen wedi dechreu yn ei goes ers 15 mlynedd wedi troi yn fadredd (mortification), ac aeth a'i fywyd mewn ychydig wythnosau. Dioddefodd boenau dirfawr a hyny yn hynod dawel.

Mab ydoedd i John E. a Jane Lloyd, gynt o, ardal Dyffryn, sir Feirionydd. Ymfudodd ei rieni i'r wlad hon 34 mlynedd yn ôl, ac yn Caledonia, Wisconsin y buont yn cartrefu yn hwyaf.

Bu farw ei fam pan oedd yn lled ieuainc. Dygwyd ef i fyny yn grefyddol, a bu yn aelod dichlynaidd gyda'r M. C. am lawer o flynyddoedd; ond trwy symud i leoedd nad oedd achos Cymreig am dymor, oedodd ymuno ag eglwys Crist wedi symud i'r ardal hon, ac yn y sefyllfa hon y bu farw. Yr oedd yn barchus iawn o grefydd, yn wrandawr cyson, yn gerddor led dda, yn haelionus yn ôl ei allu at bob achos da, a'i rodiad yn ddiargyhoedd, a gair da iddo gan bawb. Yr oedd y dyrfa a ddaeth yn nghyd yn ei gladdedigaeth, a'r teimlad dwys oedd wedi meddianu pawb ar yr amgylchiad, yn brawf diymwad fod Owen E Lloyd yn ddyn ieuanc a hoffid ac a berchid gan bawb oedd yn ei adnabod.

Cysured yr Arglwydd ei berthynasau galarus, a bendithied y tro er eu cymwyso hwythau i gyfarfod yr un amgylchiad. Claddwyd ef ar y 25ain yn nghladdfa Foreston, a chyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. John D. Williams a'r ysgrifenydd.

Y Drych ~ 1af Mehefin 1876.