MRS. CATHERINE OWENS, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 25ain, 1876, ar ôl pum dirwnod o gystudd trwm, Catherine, annwyl briod Mr. Richard Owens, Marcy.Merch ydoedd i Henry Jones, Rhydysarn, Llanuwchllyn. Nid oes ond un brawd iddi yn fyw yn bresenol. Yr oedd chwaer iddi, tua blwyddyn yn ôl neu lai, wedi paratoi pob peth i ymfudo i America; ond bu farw cyn cychwyn.
Yr oedd Mrs. Owens yn aelod dichlynaidd yn nghapel yr Annibynwyr Utica.
Bu farw gan dystio ei bod yn teimlo yn hollol barod, ac yn dymuno cael ymddatod yn hytrach nag aros. Yr oedd yn wanaidd ei hiechyd, ac yn dioddef yn aml yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf; ond cafodd anwyd ychwanegol dydd Llun, yr hyn a fu yn angau iddi y Sadwrn canlynol.
Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn y fynwent wrth gapel y Wesleiaid, Marcy. Bydded yr Arglwydd yn dirion wrth ei phriod yn ei alar a'i unigedd.
R. G. JONES.