MR. EDMUND PRYS, FAIRHAVEN, VERMONT.
Mai 24ain, 1876, yn Fairhaven, Vermont, yn mhreswylfod ei fab, Morgan Price, Mr. Edmund Prys, yn 83 mlwydd oed. Tua 10 mlynedd yn ôl y daeth i'r wlad hon at ei fab.Adwaenid ef yn y rhan orllewinol o swydd Feirionydd wrth yr enw Emwnt y Garth," yn yr hwn le y bu byw am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yr ymadawedig yn ddisgynydd o linach yr Archddiacon Prys.
Dydd Sadwrn y 26ain, daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i'r beddrod. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. John S. Jones, Remsen.