MRS. MARY ROBERTS, NELSON, NEW YORK.
Mehefin 2ail, 1876, yn Nelson, New York, yn 69 mlwydd oed, Mrs. Mary Roberts, gweddw y diweddar John H. Roberts, gynt o Penal, Meirionydd, Gogledd Cymru.Cafodd Mrs Roberts gystudd maith, a bu farw yn hyderus. Dranoeth hebryngwyd hi i dŷ ei hir gartref gan dyrfa luosog, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. G. Jones.