MR. JOHN W. THOMAS, BETHESDA, OSHKOSH, WISCONSIN.

Yn nghymydogaeth Bethesda, ger Oshkosh, Wisconsin, Ebrill 14, 1876, bu farw, o'r darfodedigaeth, Mr. John W. Thomas, yn 19 mlwydd a 7mis oed.

Mab ydoedd i William ac Elizabeth Thomas, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon o Clynnog Fawr, yn Arfon, G. C, yn y flwyddyn 1849. Bu y teulu yn byw am wyth mlynedd yn Racine; ac wedi hyny symudasant i Berlin, Wisconsin, lle bu farw W. Thomas, gan adael gweddw a phedwar o blant i alaru ar ei ol. Ond er i John golli ei dad tra yn lled ieuanc, cafodd fagwraeth grefyddol dda trwy ofal tyner ei fam; ac er mor chwerw i'w theimlad oedd ei golli, eto cafodd y dyddanwch o dderbyn tystiolaeth oddiwrtho, ei fod yn "marw yn yr Arglwydd."

Yr oedd yn wr ieuanc deallgar, hawddgar a charedig, ac felly yn cael ei hoffi gan bawb o'i gydnabod. Ond tra yn rhodio yn nerth ei iechyd - yn edrych ar y dyfodol â llygad gobeithiol, anelodd angeu ei saeth i'w fynwes; ac er pob ymdrech, yfodd ei gwenwyn ei fywyd cyn pen ychydig fisoedd. "Mewn gofid y gorweddodd." y dyddiau diweddaf y bu fyw. Tystiai ei fod yn cael cysur mewn gwirioneddau crefyddol yn amser ei gystudd.

Bydded y Nefoedd yn dyner wrth ei fam, a bendithier y teulu oll â chrefydd dda.

Claddwyd ef wrth ochr ei dad, yn Berlin, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas FouIkes, Oshkosh, a John Davies, Ripon; a thraddodwyd ychydig o sylwadau ar yr amgylchiad gan yr ysgrifenydd yn eglwys Skunk Grove, lle yr oedd yn aelod.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1876.