MR. ROBERT THOMAS, SEION, MINNESOTA.
Gorphenaf 14eg, 1876, yn nhŷ Mr. Robert a Gwen Williams, yn ardal Seion, Minnesota, Robert Thomas, genedigol yn Mhen y groes, Llanllyfni, sir Gaernarvon, Gogledd Cymru. Ei afiechyd oedd y darfodedigaeth.Daeth i'r ardal hon er's oddeutu pum wythnos yn ôl, yn ddyeithrddyn hollol i bawb ohonom; ond cafodd dderbyniad croesawgar i dŷ un o'r enw Griffith Williams, y mason, a bu yno am amryw ddyddiau yn cael pob ymgeledd angenrheidiol yn ôl gallu y teulu caredig hwnw. Oddiyno symudodd i dŷ Mr. Robert Williams, yn yr hwn y treuliodd weddill ei oes, yn cael pob ymgeledd dichonadwy o dan yr amgylchiadau gan a chyda y teulu tra charedig hwn drachefn, fel y gallaf yn ddibetrus ddweyd, pe buaswn yn amgylchiadau Robert Thomas, na buaswn yn dymuno disgyn gyda theulu mwy gofalus a charedig (canys y maent yn ddiarebol am hyny) i fy ymgeleddu yn fy oriau olaf.
Ceisiwyd arch hardd i ddodi ei gorff ynddi, ac am-fox i roi yr arch. Claddwyd ef dydd Sadwrn y 15fed. Gweinyddwyd yn y tŷ cyn Cychwyn y corff i dŷ ei hir gartref gan yr ysgrifenydd, gan wneyd sylw oddiwrth 1 Cor. xiv. 26, a'r ddefod gyffredin wrth y bedd gan yr un. Claddwyd ef yn anrhydeddus yn mynwent Minneopa Falls, Minnesota o fewn dwy lath i ochr y diweddar Barch. David Lewis. Yr oedd wedi enill serchiadau amryw i'w hoffi yn y byr amser y bu yn ein mysg.
Dywedai wrthyf ychydig ddyddiau cyn ei farw, nad oedd ganddo afael neillduol mewn cael mendio a byw, a'i fod yn meddwl ei fod yn dipyn o ffrind a Iesu Grist er nad oedd wedi gwneyd rhyw lawer o broffes o hono. Daeth yma o Winona, ac yno o Nina, Wisconsin, ac yno o ryw le yn Illinois, a daeth yno o Peach Bottom, Pennsylvania; ac am a wyddom y daeth yno o'i gartref yn yr Hen Wlad, Pen y groes, Llanllyfni ers oddeutu 10 mlynedd yn ôl.
Dywedai fod iddo fam yn ail briod, a chwaer neu ddwy yn fyw yn Nghymru. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod er mwyn ei deulu. Hefyd, os bydd eisiau ychwaneg o'i hanes yma y gallont gyfeino ataf. D. T. ROWLANDS, South Bend, Minnesota.