MR. THOMAS J. THOMAS, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

"Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd."

Yr oedd Thomas J. Thomas, gwrthrych yr hanes hwn, yn enedígol o Lleyn, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1827, ac ymsefydlodd yn agos i Remsen yn mhlwyf Trenton, New York. (Adnabyddid ef' yn y cylchoedd hyn wrth yr enw Thomas Thomas, Plastrwr.)

Ymbriododd ag Ann, merch Mr. John F. Jones o'r un plwyf, yr hon oedd yn chwaer i wraig y Parch. Erasmus W. Jones.

Dywedir fod Mrs. Thomas yn feddianol ar synwyrau cryfion a deall cyflym, ac yn ddynes WIR GREFYDDOL. Yr oedd bob amser yn ddiwyd yn moddion gras, ac ymhoffai yn fawr yn y gwaith o ddarllen ei Beibl, gyda chynwysiad yr hwn yr oedd yn dra chyfarwydd. Ond , pa beth bynag ydoedd ei rhagoriaethau, bu farw yn nghanol ei bywyd a'i defnyddioldeb, Tachwedd 14eg, 1836, yn 24 mlwydd oed. Ar ei gwely angau meddai hyder diysgog yn nhrugaredd Duw.

Bu iddynt dri o blant, dau fab, ac un ferch, yr hon a fu farw pan ydoedd ychydig dros flwydd oed. Lladdwyd un mab iddynt o'r enw John yn y rhyfel. Dygwyd corff Captain Thomas i'w gartref i'w gladdu, yn ochr ei anwyl briod. Ac y mae eu mab arall yn byw yn Prospect, ac yn aelod parchus gyda'r M. E.

Yn mhen ugain mlynedd claddu Mrs. Thomas, ailbriododd gydâ Miss Anne Jones o Remsen, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei fedd.

Derbyniwyd y brawd Thomas yn aelod o'r.Eglwys Gynulleidfaol yn y Capel Ucha', Steuben, gan y Parch. William D. Williams, yn y flwyddyn 1835, o'r hon eglwys y bu yn aelod hardd a didramgwydd am 27 o flynyddau. Yn y flwyddyn 1858 symudodd i Neenah, Wisconsin, lle y bu yn dra ffyddlon i gydgynal achos y Gwaredwr. Ar ei fynediad yno, yr oedd yr eglwys yn lled derfysglyd, ac wedi ymranu yn ddwy blaid, yr hyn ydoedd yn ofid calon iddo. Yn mhen ychydig amser bu diwygiad mawr yn mysg pob enwad crefyddol yn yr ardal, yr hyn a fu yn foddion i ddod a'r pleidiau at eu gilydd, ac i ychwanegu llawer iawn at yr eglwys. Cafwyd amser dedwydd y pryd hwnw, a'r brawd Thomas o eigion ei galon yn tori allan i waeddí yn y gyfeillach grefyddol, "O'r Arglwydd y daeth hyn, a hyn sydd ryfedd yn fy ngolwg i."

Wedi byw yno am tua deng mlyneld, daeth i'w feddwl i symyd yn ôl i ardal Remsen. Treuliodd y ddwy flynedd olaf o'i oes yn Prospect, New York.

Felly bu ein hanwyl frawd yn filwr dewr, ffyddlon a diysgog yn myddin yr Oen am un a deugain o flynyddau. Ni chafodd eglwys Dduw erioed ofid o'i blegid ef. Gellid dweyd yn hollol ddiofn ei fod yn Israeliad yn wir, heb ddim twyll ynddo - yn Gristion cywir a diargyhoedd, yn briod hawddgar a thad tyner. Gwir iddo gyfarfod a llawer o flinderau ar ei dalth - cystuddiau teuluaidd, a llawer o drallodion a phrofedigaethau, eto yr oedd y cyfan yn cydweithio er daioni iddo yn y pen draw. Mynych y cynghorai ei anwyl Anne yn nghyd a'r holl deulu, i ymofyn am grefydd brofiadol, fel y caent oll gyfarfod â'u gilydd yn y nefoedd, lle na byddai raid ymadael byth.

Yr oedd yn cael ei flino er's rhai blynyddau cyn ei farwolaeth gan yr anhwyldeb annymnnol yr asthma. Hefyd yr oedd wedi colli ei glyw, yr hyn ydoedd yn ei wneyd yn anghysurus iddo ei hun, yn gystal ag i eraill o'i amgylch.

Wedi wythnos o gystudd caled, gorphenodd ei yrfa Tachwedd 8fed, 1876, yn 72 mlwydd oed. Bu farw fel y bu fyw, gau ymdddiried ei hunan i ofal yr hwn y mae ei gariad yn gryfach nag angau. Yr oedd ei wendid yn fawr cyn ei ymddattodiad, ond yr oedd ei ysbryd yn tawel ymroddi i ewyllys ei Arglwydd, a dymunai yn daer am iddo ei ollwng yn rhydd o'i boenau er mwyn iddo gael myned at Iesu i fyw. Er fod ei draed wedi oeri yn rhydiau yr Iorddonen, ac yntau bron yn methu siarad, eto mynych y clywid ef yn ymdrechu parablu yr hen benill anwyl hwnw :

"Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod i mi mwy -"

Ond cyn iddo allu ei orphen, er ymdrechu droion, ehedodd ei ysbryd at yr hwn a'i rhoes i wlad y llawenydd tragwyddol. Yr oedd wedi rhagdrefnu pob peth gyda golwg ar ei gladdedigaeth; enwodd y bearers, a.y., a gorchymynodd yn gaeth iddynt beidio gwneyd Exhibition o'i gorff ei yn y capel, oblegid ystyriai hyny yn achos i enyn teimladau.

Dygwyd ei weddillion marwol gan dorf luosog i fynwent y Capel Uchaf i'w ddaearu. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y capel gan y Parchn. R. Evans, Remseu, ac E. R. Hughes, Steuben, ac wrth y bedd gan yr hybarch Morris Roberts.

Gadawodd wraig ac un mab, yn nghyd a lluaws o berthynasau eraill i alaru o herwydd eu colled, ond y mae eu colled hwy wedi troi yn elw tragwyddol iddo ef. Heddwch i'w lwch, hyd ddydd yr adgyfodi.

Ehedeg wnaeth Thomas o dir y rhai byw,
Gorphenodd ei yrfa meẃn undeb â Duw;
Aeth adref trwy'r afon er dyfned ei lli,
Gan dd'wedyd, "Mae Duw yn graig gadarn i mi."
Cyn hyny'n ei gystudd dywedodd yn llon,
"Da, da, mewn gwirionedd yw crefydd 'rawr hon;"
A'r grefydd feddianodd tra'r ydoedd yn fyw,
A gludodd ei enaid i fynwes ei Dduw.
E. R. H.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1877.


MR. THOMAS J. THOMAS, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I Thomas J. Thomas of the village of Prospect in the town of Trenton, County of Oneida and State of New York of the age of seventy one years and being of sound mind and memory do make, publish and declare this my last Will and Testament in manner following, that is to say :

First. I desire and order that all my just debts and funeral expenses be paid.

Second. I give and bequeath unto my wife Ann Thomas the sole and entire use and control and entire benefit of all my estate both personal and real during the term of her natural life.

Third. At the decease of my said wife Ann Thomas, the whole estate both personal and real, I give and bequeath to my son Evan T Thomas and to his heirs forever.

Fourth and Last. I hereby appoint my said wife Ann Thomas and my son Evan T. Thomas to be the Executors of this my last Will and Testament hereby revoking any and all former Wills by me made.

In witness whereof I have hereunto set my hand and seal on this 31st day of December 1875.
Signed Thomas J. Thomas.

The foregoing instrument on the day of the date thereof was subscribed by Thomas J. Thomas the testator therein named in the presence of the undersigned, the said Thomas J. Thomas at the timehe so subscribed the said instrument declared the same to be his last Will and Testament and requested us to sign our names as attesting witnesses in his presence and in the presence of each other.
Didymus Thomas Town of Remsen Oneida County.
Mary Griffiths Town of Remsen Oneida County.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.