MR. WILLIAM R. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab Rowland a Jane Thomas, Corsybille ym mhlwyf Bryncroes. Bedyddiwyd yn Eglwys Bryncroes, Chwefror 14eg, 1798.

Priodi ar yr 8ed Ebrill, 1820 gyda Gwen Thomas o Langwnadl a byw am gyfnod ar ôl priodi yn Gyfelan Bach, Llangwnadl.

Ymfudo i America yn 1828 a sefydlu fferm yn ardal Trenton.

Anfonodd William amrhyw o lythyrau yn ôl i Gymru yn adrodd ei hanes yn America. Mae dau o'r llythyrau wedi cael eu diogelu yn Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon, XM/3321/9 ac XM/3321/10. Mae'n ddiddorol gweld sut y mae wedi arwyddo un o'r llythyrau:-

Yr eiddoch yn serchog,
William Rowland, Gyfelan gynt.

Yn awr William R. Thomas, Trenton.

Daeth William a Gwen yn ôl i ymweld â Chymru dair gwaith, y tro diweddaf ychydig cyn ei farw yn 1876.

Gwen Thomas, 1801 - 8/3/1886.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Prospect.

Glyn Roberts ~ Awst 2021.


MR. WILLIAM R. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 28ain, 1876, bu farw Mr. William R. Thomas, Remsen, yn 78 mlwydd oed, yn Utica, yn nhŷ ei fab. Y dydd Mawrth canlynol, dygwyd ei gorph i fyny i Remsen. Cynaliwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur yn y Capel-ceryg, lle yr oedd y brawd yn aelod, gan y brodyr J. Seth Jones (B.); J. D. Jones (M. C), a Mr. Short (M. E). Wedi darfod y gwasanaeth yn Remsen, hebryngwyd ei weddillion marwol i fynwent Prospect i'w claddu, lle yr oedd amryw o blant iddo yn gorphwys yn dawel yn llwch y gweryd. Ganwyd gwrthddrych ein cofiant yn y flwyddyn 1799, yn mhlwyf Bryncroes, Lleyn, Swydd Arfon. Cafodd well manteision yn moreu ei oes na'r rhan fwyaf o blant Cymru yr amser hwnw, fel yr oedd yn ddarllenwr, rhifyddwr, ac ysgrifenwr rhagorol. Ebrill 8fed, 1820, priododd Miss Gwen Thomas, plwyf Llangwnad, Lleyn, Swydd Arfon, Gogledd Cymru. Bu iddynt wyth o blant. Mae pedwar eto yn fyw, tri mab ac un ferch. Ymfudasant i America tua 50 mlynedd yn ôl, i Swydd Oneida, a buont yn byw yn mhlwyf Trenton a Remsen. Tua deugain mlynedd yn ôl, ymunodd Mr. Thomas â chrefydd; bwriodd ei goelbren gyda'r M. W., a bu yn aelod ffyddlon gyda'r enwad selog hwnw am dros ugain mlynedd. Prynodd gartref iddo ei hun yn Remsen; ac wedi symud iddo i fyw, trwy nad oedd gan yr enwad y perthynai iddo achos Cymreig yn Remsen, ymunodd â'r M. C, lle y bu yn aelod ffyddlon hyd ei fedd. Teg ydyw dyweyd, ac annheg peidio, er iddo newid ei bobl, ni newidiodd ei farn na'i grefydd. Yr un Beibl oedd ganddo - yr un Crist i gredu ynddo - yr un Iawn i ymorphwys arno, a'r un Ysbryd yn arweinydd iddo, ag oedd genym ninau. Ac fe fydd ein cadwedigion ni yr Un faint a chadwedigion y brodyr Wesleyaidd, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr - yr un rhif a fyddant, a'r un rhai a fyddant - "tyrfa fawr na ddichon neb ei rhifo, o bob llwyth, iaith, a chenedl." Ychydig a groesodd y Werydd gymaint a Mr. Thomas; bu drosto saith o weithiau o gwbl; yr oedd hyny agos gymaint a phe buasai yn amgylchu y byd. Y daith olaf iddo oedd y llynedd. Cychwynodd tua diwedd Awst, a dychwelodd yn ôl tua'r 20fed o Hydref, i dŷ ei fab yn Utica wedi myned yn rhy wan i ddyfod adref. Cafodd fyw yr wyth niwrnod olaf gyda'i berthynasau anwylaf, sef ei briod a'i blant anwyl. Yn yr amgylchiad yma drylliodd angeu gyfamod â pherthynasau oedd wedi parhau am yr ysbaid hir o 56 o flynyddau,

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1851


MR. WILLIAM R. THOMAS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I William R. Thomas of the village and town of Remsen in the County of Oneida and State of New York of the age of 73 years and being of sound mind and memory do make, publish and declare this my last Will and Testament in manner following that is to say.

First. I devise and order that all my just debts and funeral expenses be paid.

Second. I hereby give and bequeath to my beloved wife Gwenn Thomas the sole and entire use and benefit and control of all my estate both real and personal during the term of her natural life and I hereby authorize and empower her to sell and convey any or all of the real estate I may die possessed of and I hereby authorize and request the other Executors hereinafter named to join in with my said wife in the conveyance of any of said real estate.

Third. At the decease of my said wife I give and bequeath to my son Rowland Thomas the sum of one hundred dollars and to my grandson Willie Thomas (the son of late Capt. John T Thomas) the sum of fifty dollars, and at the same time viz : At the decease of my said wife I desire and order that the Executors hereinafter named who shall then be living shall loan out on Bond and Mortgage on unencumbered real estate ? at least twice the sum loaned the sum of two thousand dollars ($2000) the interest of which sum shall be paid either annually or semi annually to my daughter Catherine and to no other person during the term of her natural life, and at her decease it shall be divided between the children should she have any, but in case she shall die without issue then in that case it shall be divided between her brothers William and Richard and Rowland share and share alike.

Fourth. I hereby nominate and appoint my said wife Gwenn Thomas together with my sons William J Thomas and Rowland Thomas Executors of this my last Will and Testament hereby revoking and annulling any and all former Wills by me made.

In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 10th day of September 1873.
Two lines at the close of the 3 items were inserted in this Will before it was executed.
Signed William R. Thomas.

Signed, sealed, published and declared by the said Testator to be his last Will and Testament in the presence of us who signed our names at his request as witnesses in his presence and in the presence of each other.
Didymus Thomas Remsen Oneida County.
Hugh H Jones Trenton Oneida County.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.