MR. DAVID CADWALADER, PROSCAIRON, WISCONSIN.

Ebrill 21ain, 1877, yn Proscairon, Wisconsin, wedi maith nychdod, ar ôl cael ergyd drom o'r apoplexy, er's pedair blynedd yn ôl, bu farw Mr. David Cadwaladr, yn 72 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn 1805, yn Llanhaiarn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Cadwaladr Foulk ac Ann Davies. Yr oedd ei fam yn gyfnither i'r enwog John Elias. Hanai ei dad o deulu Glynirwch, Llandwrog. Ni chafodd addysg grefyddoi yn ei febyd, gan nad oedd ei rieni yn proffesu crefydd, ac ni dderbyniodd nemawr o addysg gyffredinol. Dywedai yr aferai fyned gyda'i fam i'r capel pan yn blentyn, yr hon a ddygai raddau o zel gyda y Bedyddwyr, ac mai i gapel Cwm-coryn yr aeth gyntaf i'r Ysgol Sul. Gan nad oedd o dan unrhyw rwymedigaethau crefyddol o du ei rieni, tyfodd i fyny yn llanc yn ôl tuedd natur lygredig, heb ddiwylliad o un math; a chan ei fod yn meddu corph cadarn, gewynog, enaid gwrol, a phenderfyniad bron anhyblyg, nid oedd dim yn fwy naturiol nag iddo fod yn gampwr mewn drygioni, a phob gwrhydri a arferid yn ei ddydd.

Wedi i'w dad symud o Lanhaiarn i Rostryfan, aeth i weithio i chwarel y Cilgwyn, pan nad oedd ond 11 oed. O'r oedran 11 hyd y 22, arweiniai fywyd gwyllt ac anystyriol iawn, trwy yfed ac ymladd Suliau a gwyliau. Nid oedd mater ei enaid wedi dod adref at ei feddwl, er iddo gael ei ddychrynu droion dan Weinidogaeth argyhoeddiadol John Williams, Llancheiddior, a'r cyffelyb; ond gwisgid y cyfryw argraffiadau ymaith yn ebrwydd. Pan oedd rhwng 22 a 23 oed, ymwelodd Duw a Rhostryfan â diwygiad nodedig. Ar y pryd, dygwyddodd iddo fyned i gapel Bontnewydd foreu Sabboth, yr hwn gapel oedd mewn cysylltiad taith Sabboth â Rhostryfan, i wrando ar Moses Jones yn pregethu; a'r pryd hwnw y cydiodd y gwirionedd yn ddifrifol yn ei feddwl, "ac ni ollyngodd ei afael hyd heddyw," meddai.

Pregethai ar y geiriau, "Pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Darluniai yr amgylchiad yn bur darawiadol — y cofiai yn dda ei fod yn sefyll o flaen y pwlpud, a bod y weinidogaeth mor gyfeiriol bersonol ato ef, fel yr ymdeimlai mai wrtho ef yn unig yr oedd y pregethwr yn llefaru. Dywedai fod agwedd ei feddwl ar ôl hyny fel un a fuasai wedi dod i wlad newydd. O'r Sabboth hwnw hyd y prydnawn Sabboth canlynol, yr oedd ei feddwl yn nghanol yr ystorm ar hyd yr wythnos. Aeth i dori mawn brydnawn Sadwrn, ond ni wyddai iddo dori un fawnen. Cafodd ar ei feddwl fyned ar ei liniau i geisio gweddio, a dyna fel y treuliodd y prydnawn hwnw, weithiau ar ei liniau, bryd arall ar ei wyneb ar y ddaear.

Yr oedd Joím Williams, Llancheiddior, i bregethu y nos Sadwrn hwnw yn Rhostryfan. Tybiai y byddai society ar ôl yr oedfa; penderfynodd aros yn y society, er na wyddai ddim am y cyfryw le. Aeth i'r capel cyn myned adref; teimlai bryder dwys ar hyd yr oedfa yn nghylch y society a fyddai yn debyg o fod ar ôl; ac ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd society; ac er yr arferai fyw yn ddiofn pob peth, aeth i grynu fel y ddeilen ar y pryd, a dywedai wrth yr hen Evan Williams, Seion, y sonir am dano yn "Methodistiaeth Cymru," na allai efe fyned allan. "Aros yma wnei, ynte." Yr oedd un arall wedi aros ar ôl; gallasai hwnw ddyweyd ei helynt yn lled rwydd, ond nis gallasai ef ddyweyd fawr. Yr hyn a'i synai fwyaf oedd, i'r hen flaenor, ar ôl gofyn barn yr eglwys yn ei gylch, hysbysu fod rhyddid iddo ddyfod yno drachefn, os ewyllysiai. Rhyfeddai at y fath haelfrydedd ar ei ran, ac iddo gael ei dderbyn i'r fath gwmni glan, fel y tybiai ar y pryd. "Cefais diriondeb nodedig oddiar law yr eglwys yn Rhostryfan, a chefais y fraint o aros yn yr eglwys hyd heddyw heb fod dan ddysgyblaeth, er i mi haeddu bod dani lawer tro," meddai.

Y society ar ôl iddo ef ddod iddi, daeth Ellen, ei wraig, yr hyn a roes gysur nid bychan iddo. Nid rhyfedd fod y rhan luosocaf o aelodau ein heglwysi yn y dyddiau hyn yn ddynion na wyr yr eglwys na'r byd ddim am eu dylanwad, oblegid ni wyddant fawr am yr argyhoeddiadau dyfnion a brofodd yr hen bobl. Dynion oeddynt y gwyddai pawb eu bod wedi cael tro mawr, ac un felly oedd gwrthddrych ein hanes.

I'w ddilyn yn mlaen. Bu yn lled ansefydlog o ran ei amgylchiadau tymorol; cyfnewidiadau rhagluniaethol mewn rhan, fe allai, yn peri iddo symud o'r naill eglwys i'r llall. Wrth edrych ar symudiadau a chodymau y byd, daeth goleuni rhyfedd i'w feddwl brydnawn Sadwrn, ar ochr mynydd Cefn Du, trwy y gair hwnw, "Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symudant; ond fy nhrugaredd ni chilia, a chyfamod fy hedd ni syfl." Symudodd o Rostryfan i Dal-y-sarn; yno cafodd fwynhau doniau yr enwog John Jones. Oddiyno i Gapel Coch, Llanberis; oddiyno i Dinorwig; ac oddiyno i Bethesda, Blaenau Ffestiniog. O'r lle hwn y symudodd i America, gan sefydlu yn Pennsylvania. Yn Slatington y dewiswyd ef yn ddiacon, ar yr un adeg ag Evan F. Jones, yn awr y Parch. Evan F. Jones. Symudodd o Slatington i Middle Granville, New York. Galwyd ef i'r swydd ddiaconaidd yma eto. Oddiyno symudodd i Proscairon, Wisconsin; o Proscairon i Lake Emley; o Lake Emley i Blaenycae; o Blaenycae i Lake Emley drachefn; o Lake Emley i Proscairon, ar ôl claddu Ellen, ei wraig, trwy ail-briodi â Mrs.Morris. Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd yn mhob un o'r manau uchod.

Ofnai lawer am ei gyflwr. Ond ar brydiau teimlai ei fod, er y cyfan o'r dowcio, ei air ef ei hun, yn greadur na chollir byth mo hono; ac felly y creda canoedd heblaw yr ysgrifenydd. Yn y Dalaeth hon y daeth yr ysgrifen ydd i gyffyrddiad gyntaf â gwrthddrych yr ysgrif, ac nid oedd fy meddwl yn hollol glir oddiwrth raddau o ragfarn tuag ato pan y daethum i'r cyffyrddiad hwnw. Ond yr oedd y cysylltiadau y daethom iddynt yn rhai lled fanteisiol i adnabod y carictor dan sylw.

Tybiwn fod nodweddion ei gymeriad yn rhai pur amlwg, yn ymwthio i'r golwg dan bob amgylchiad; ac y mae ambell un yn anhawdd ei adnabod er bod yn agos ato, ond nid un o'r cyfryw oedd ef.

Un o'i nodweddau ydoedd ffyddlondeb diwyrni i argyhoeddiadau ei feddwl. Tybiwyf y byddai weithiau yn ffurfio barn rhy fyrbwyll. Nid ydwyf yn awgrymu ei fod yn amddifad o farn dda, ond dymunol iddo dan rai amgylchiadau fuasai cymeryd golwg mwy cwmpasog ar bethau. Wedi iddo ef benderfynu, nid oedd gwestiwn yn aros a gariai efe allan ei amcan. Unwaith y cyhoeddai frwydr, yr oedd bron yn gyfystyr ag i'r fuddugoliaeth gael ei sicrhau. Am wn i nad y gair mwyaf nodweddiadol o hono yw y gair gwydn, Yr oedd David Cadwaladr y mwyaf gwydn y daethum ar ei draws yn holl hanes fy mywyd. Hen dderwen fawr geinciog ydoedd, rhisgl garw. Yr oedd wedi ei llunio gan arfaeth i ddal ystorm gref; ond wedi tocio ymaith y ceinciau mawrion a'r rhisglyn garw, yr oedd ynddo ddigon o riddyn da i wneyd rhyw haner dwsin o ddynion gweddol. Ni byddaf fi byth yn cwyno os bydd dyn dipyn yn arw, os caf bren ynddo; ond am y dynion sydd wedi eu gwneyd i gyd o poplar neu bass-wood, ni wn i beth y maent yn, dda; gofaled yr eglwys am beidio eu gosod mewn gwaith beth bynag ar a fo — y cedrwydd a'r coed goraf a blanodd Duw sydd i fod yn ngwasanaeth y deml.

Yr oedd ein brawd yn ffyddlon i'r eithaf , dros Grist, yn neillduol felly pan welai deyrnas y Cyfryngwr mewn perygl; elai i ddanedd y frwydr; ni ofalai pa un ai iach ai archolledig y deuai allan. A mynych y gosodai y Cyfarfod Dosbarth neu y Gymanfa ef o flaen y milwyr glewaf a feddai y gelyn Rabbah, meibion Ammon, lle y gwyddys y saethid oddiar y mur, am nad ufuddhai neb i'r alwad ond yr hen Gadwaladr. Yr oedd ei ffyddlondeb i'r achos yn ddiarebol, a'i garedigrwydd a'i haelioni i weision Crist hyd at ymylu gwneyd cam â'ì amgylchiadau.

Ond yntau, fel fy holl dadau, a fu farw, ac a gladdwyd yn anrhydeddus. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas H. Roberts, David Pugh, David R. Jones, Thos. R. Jones, Mr. Joshua Roberts, a'r ysgrifenydd.

Gadawodd ar ei ôl weddw a fu yn ofalus iawn o hono dan hirfaith gystudd. Yr Arglwydd a fyddo yn dyner o honi yn ei henaint. Y mae iddi dri mab ac un ferch, yr hon sydd briod i'r Parch. Joseph Roberts, Racine, eto yn fyw.
JOHN R. DANIEL.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad Medi 1877.