MRS. ANN DAVIES, WILLIAMSBURGH, IOWA.
Mehefin 18fed, 1877, yn 49 mlwydd oed, Mrs. Ann Davies, priod Rowland Davies, o ardal Williamsburgh, Iowa.Genedigol ydoedd o Llwyngwril, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Gadawodd briod, wyth o blant ac un chwaer i alaru ar ei hol.
Yr oedd Mrs. Davies yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr, lle hefyd y mae ei phriod a'r plant yn aelodau, ac yr oedd yn barchus iawn yn yr ardal, fel y dangoswyd yn amlwg ddydd yr angladd (yr 20fed), pryd yr oedd tua 60 o gerbydau yn bresenol. Cysur mawr i Mr. Davies yn ei alar yw fod ganddo ferched wedi tyfu i fyny i gymeryd gofal o'r tŷ, i'r rhai y mae gair da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Ymgysured y teulu yn y gobaith o gyfarfod yr ymadawedig eto mewn gwell lle.