MRS. ANN DAVIES, PENYCNWC, GENESEE, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

Mehefin 22ain, 1877, Mrs. Ann Davies, priod Mr. David Davies, Pen-y-cnwc, Genesee, Waukesha County, Wisconsin, yn 44 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn ardal Llanegryn, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Daeth drosodd i'r America yn y flwyddyn 1851. Yn mhen enyd wedi hyny ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr yn Utica, New York. Symudodd wedi hyny i Racine, Wisconsin, a phriododd yn y flwyddyn 1860. Wedi hyny cartrefodd yn yr ardal y bu farw ynddi, pan y gadawodd briod a phedwar o blant i alaru ar ei hol.

Trwy nad oedd y cynulliadau Annibynol yn gyfleus iddi yn y lle hwn, ymunasai er's blynyddoedd ag eglwys y T. C. yn Salem - at ba un y teimlai yr un mor serchog a selog ac y gwnelai at ei henwad cyntefig. Yr oedd yn wraig feddylgar, ddawnus, a gobeithiwn parod i'w hymadawiad i'r fuchedd dragywyddol.

Claddwyd hi prydnawn dranoeth yn mynwent Salem. Cyn cychwyn o'r tŷ darllenodd, gweddiodd a chyfarchodd y Parch. Enoch Jones (A.) y gynulleidfa. Anerchwyd with y bedd gan y Parchn. John Moses a John Williams, a gweddiodd y Parch. Hugh Roberts. Nos Sabboth dilynol, Mehefin 21ain, traddodwyd ei phregeth angladdol oddiar 2 Tim. i. 10 gan y brawd Williams.

Y Drych ~ 19eg Gorphenaf 1877.