MR. OWEN J ROBERTS, TRENTON, ONEIDA, EFROG NEWYDD.

Mawrth16eg, Yn mhlwyf Trenton, swydd Oneida, C. N., gerllaw 28ain mlwydd oed, Owen J , mab John J. a Mary Roberts.

Yr oedd y trengedig yn wr ieuangc rhinweddol iawn, mewn llawer o olygiadau gonest a llafurus, ufydd i'w rieni, a pharchus gan bawb a'i hadwaenai.

Dioddefodd gystudd maith. Bu am yn nghylch dwy flynedd a hanner yn profi holl fedrusrwydd meddygon, ond y cwbl yn ofer.

Hebryngwyd ei weddillion marwol i gladdfa capel y T. C. yn Mhen-y-caerau, gan dyrfa fawr, y rhai a anerchwyd ar yr achlysur sobr gan y Brodyr D. Williams a M. Roberts.

Ymfudasai y teulu hwn yma o Leyn, Cymru, yn y flwyddyn 1819.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1845