MR. ERASMUS DAVIES, GRANVILLE, NEW YORK.

Ebrill 1af, 1877, yn Granville New York, Erasmus Davies, yn 50 mlwydd oed, o'r clefyd a elwir gan y meddygon yn pleuris pneumonia. Ni bu yn glaf ond prin wythnos, ac fe allwn ddweud fod iddo gorff cryf a nerthol; ond fe wnaeth y gelyn diweddaf ymosodiad mor chwyrn a di-ildio, fel yr oedd ein hen gyfaill, er yn ddyn cadarn, yn amlwg ddwyn tystoliaeth, "nad oes bwrw arfau yn y rhyfel hwn." gan mor brysur y dadfeiliai y ty o glai.

Ymfudodd i'r America o Lanberis, Gogledd Cymru, yn 1852, gan ymsefydlu yn Fairhaven am agos i 22ain o flynyddau. Yn 1874 symudodd i Poultney, a dechreu y flwyddyn hon symudodd i Granville. Gadawodd wraig a saith o blant i alaru eu colled ar ei ol. Mae y ddau blentyn ieuengaf (efeilliaid) yn 7 mlwydd oed.

Claddwyd bachgen iddynt yn Fairhaven yn 1873, yn 6 mlwydd a 8 mis oed; a Mawrth 23, y flwyddyn ddiwethaf, bu farw eu hanwyl ferch Jane Ann, o'r frech wen, yn yr ysbyty ar Ward's Island, New York. Yr oedd Jane yn ferch hynod o grefyddol.

Hebryngwyd gweddillion marwol ein cyfaill i fynwent Middle Granville gan dyrfa luosog. Gweinyddwyd yn y ty ac lan y bedd gan y Parch. Hugh Davies, Middle Granville, yn dra sylweddol.

Y Drych ~ Ebrill 1af, 1877.