MR. EDMUND EVANS. ELIZABETH, ILLINOIS.
Rhagfyr 29ain, 1877, yn Elizabeth, Illinois, yn 76 mlwydd a 10 mis oed, Edmund Evans. Brodor o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, oedd yr ymadawedig.Ymfudodd i'r wlad hon ers pedair blynedd ar hugain yn ôl, ac ymsefydlodd yn yr ardal hon, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn aelod ffyddlon a selog o eglwys y M. C. yn yr-Hen Wlad, ac yn y wlad hon nid oedd yn llai ffyddlon dros ei Feistr mawr; ond bu yn hynod weithgar yn y cylch oedd ganddo. Bu am flynyddau yn un o ddau yn cadw cwrdd gweddi yn y capel er cadw drws agored, a pharhaodd yn ffyddion hyd y diwedd; ac mae yn ddiameu fod y gŵr y llafuriodd drosto wedi ei arddel yn y diwedd. Yr oedd iddo gylch helaeth o gyfeillion yn yr Hen Wlad ac yma.
Bu yn gweithio am flyayddau maith yn Ffestiniog a diau bod yno lawer yn ei gofio yn dda eto.
Magodd deulu lluosog o blant dau o ba rai sydd yn y weinidogaeth, sef y Parch. W. M. Evans, Melbourne, Australia, a J. E. Evans, Elizabet, Illinois.
Cafodd gystudd o ddeuddeg diwrnod - ei glefyd oedd y pneumonia. Teimlai yn hollol foddlon i fyn, gan, meddai, nad oedd yn cael fawr a bleser yn y byd hwn, ac hefyd ei fod yn credu y cai fyned i well lle. Y Sabboth canlynol daeth torf o bobl i nebrwug ei weddillion i dŷ ei hir gartref, pryd y gweinyddwyd yn y ddwy iaith.
Dymunwn gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i'r cymydogion am eu caredigrwydd yn ei gystudd. Yr Arglwydd a dalo iddynt.
JOHN E. EVANS.