MR. GRIFFITH G. EVANS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhag. 16, 1877, Mr. Griffith G. Evans, yn 82 mlwydd, 5 mis a 18 diwrnod oed.

Ganwyd ef yn Bachellyn, Llanbedrog, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i America yn y flwyddyn 1840, o Bryn y Gloch, plwyf Penllech, Lleyn, a sefydlodd yn Remsen, New. York. Bu yno 20 mlynedd. Yno y bu farw ei wraig.

Wedi hyny symudodd at ei ferch Catharine a'i theulu, sef teulu Mr. Wìlliam W. Jones. Bryn y Gloch, Floyd, y rhai oeddynt anwyl o hono, ac yntau o honynt hwythiau. Bu iddo ef a'i briod 9 o blant, 7 o'r rhai sydd yn fyw i alaru ar ei ôl. Nid oedd wedi uno yn aelod gydag un enwad, er ei fod yn ffyddlon wrandawr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a phethau dwys ar ei feddwl.

Yn ei ddiwedd, adroddai adnodau y Beibl a phenillion, a dywedai fod yr Iawn yn ddigon. Dydd ei angladd, aed o Floyd i Gapel Penygraig, Remsen, a rhoddwyd ei gorff i orwedd yn nesaf at fedd ei wraig. Gweinyddwyd gan y Parch. D. M. Jones a'r ysgrifenydd. Nid ydym yn gwybod fod ganddo un gelyn yn y byd, ac yr oedd ei angladd yn un o'r rhai lluosocaf. Heddwch i'w lwch.
J. R. GRIFFITH.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1878.


MR. GRIFFITH G. EVANS. FLOYD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Wedi ei eni yn Bachellyn, Llanbedrog.

Wedi symyd i fferm Bryn y Gloch ym mhlwyf Penllech. Ar 17eg o Fai 1820 priodi gyda Elizabeth Jones o Carrog ym mhlwyf Bryncroes.

Yn 1840 y teulu yn ymfudo i America ar y llong St Laurence o Lerpwl. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-

Griffith Evans. 45. Farmer. Elizabeth Evans. 46. Catherine Evans. 19. bedyddio yn Bryncroes 23/7/1820.
Griffith Evans. 17. Ellenor Evans. 16. bedyddio yn Llangwnadl 23/5/1824.
John Evans. 14. bedyddio yn Penllech 23/4/1826.
William Evans. 12. bedyddio yn Penllech 22/4/1828.
Rachael Evans. 8. bedyddio yn Penllech 6/3/1831.
Jane Evans. 7. bedyddio yn Llangwnad 11/8/1833.
Mary Evans. 4. bedyddio yn Penllech 28/4/1836.

Sefydlodd y teulu ar fferm yn Remsen, Efrog Newydd.

Bu Elizabeth farw yn 1845 yn 51 oed. 5/3/1794 - 14/7/1845.

Bu Griffith G Evans farw yn Ffloyd ar 16/12/1877 yn 83 oed.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Penygraig, Remsen.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.