MRS MARY EVANS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mary Evans 1791 - 1877 a Griffith Evans 1791 - 1875 o Cabli ym mhlwyf Bryncroes.

Griffith wedi priodi Mary Evans o Langwnadl yn Eglwys Llangwnadl ar 17/5/1811.

Ymfudo i America yn 1827 gyda tua hanner cant o drigolion Llangwnadl ar fwrdd y brig Gomer. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-

Griffith Evans. 36.
Mary Evans. 36.
Jane Evans. 13.
Eleanor Evans. 10. bedyddio 18/6/1815.
Mary Evans. 6. bedyddio 16/12/1819.
John Evans. 1. bedyddio 24/2/1826. yng nghapel Penygraig.

Ganwyd mab arall iddynt, Evan yn America.

Yn America 'roedd Evan yn defnyddio y cyfenw Jones ac fe ellir gweld yng nghyfrifiadau yr Unol Daleithiau fod Griffith E Jones yn gweithio fel crydd ym mhlwyf Steuben.

Bu Griffith E Jones farw ar 3/4/1875 yn 84 oed a Mary Jones yn 1877 yn 86 oed.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Nant yn Steuben.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.