CAPT. JOSEPH E. GRIFFITHS, IOWA CITY, IOWA.
Gorphenaf 7fed, 1877, yn Iowa City, Iowa, wedi cystudd o dri diwrnod, Capt. Joseph E. Griffith, yn 31 mlwydd a 2 fis oed, mab y diweddar Barch. Evan Griffith.Ganwyd ef yn Llanegryn, swydd Meirionydd, Gogledd Cymru. Trwy ei ddewrder milwrol yn y rhyfel ddiweddaf, yn yr ymgyrch fawr i gymeryd Vicksburg, dyrchafwyd ef o fod yn Sergeant i fod yn Lieutenant. Wedi y rhyfel rhoddodd ei swydd i fyny yn y fyddin, a thrwy gymeradwyaeth Gen. Grant anfonwyd ef i West Point, ysgol filwrol y Llywodraeth, lle y graddiodd yn drydydd yn ei ddosbarth. Wedi bod am ryw gymaint o amser yn ngwasanaeth y Llywodraeth, rhoddodd i fyny ei sefyllfa a daeth yma i ymgvmeryd a masnach yr ŷd gyda'i frawd-yn-nghyfraith, Charles Lewis, Ysw., yn yr hwn fasnach yr oedd pan fu farw.
Bu farw yn sydyn iawn - dim ond tridiau fu ei gystudd. Tarawyd ef tua 10 o'r gloch boreu Sadwrn ag epileptic fit, ac erbyn haner dydd yr oedd wedi marw.
Claddwyd ei weddillion gan y Knight Templars, ddoe, yn nghladdfa y ddinas, yn ngwydd tyrfa luosog iawn. Gadawodd wraig a thri o blant bychain i alaru eu colled o ŵr ffyddlon a thad tyner, hefyd cylch helaeth o berthynasau a chyfeillion. Yn wir y mae pawb yn y ddinas a'r wlad yn teimlo yn alarus wrth golli cyfaill mor ffyddlon a dinesydd mor gywir ac ymroddgar. Credwyf y teimla miloedd trwy'r wlad yr un modd, lle eu hadwaenent pan yn fachgen, sef yn New York, Utica, Racine, a manau eraill. Heddwch i'w lwch, a nawdd y Nefoedd i'w weddw a'i blant.