MRS. MARGARET HUGHES, BRYN ADDA, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Mawrth 13eg, 1877, yn Bryn Adda, Welsh Prairie, Wisconsin, wedi un wythnos arddeg o gystudd trwm o'r inflammation of the lungs, Mrs. Margaret Hughes, yn 69 mlwydd a 9 mis oed.Genedigol ydoedd o'r Tŷ Bach, Waun Wen, ger Bangor, Gogledd Cymru.
Ymbriododd â William Hughes, Llain Gynffon, Môn, yr hwn a'i rhagflaenodd i'r byd ysbrydol tua thair blynedd yn ôl. Sefydlasant yn ardal Dinorwig, lle yr ymunodd a chrefydd yn yr Ysgoldy bach, lle y cynelid moddion cyn adeiladu Capel Dinorwig. Daliodd afael yn ei chrefydd yn ddidramgwydd i'r eglwys hyd ddiwedd ei thaith. Claddwyd hi ar y 5ed cyfisol, pryd y daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. Rees Evans, Camoria, yn hynod effeithiol; a'r Sabboth canlynol traddododd y bregeth angladdol oddiwrth y 35ain o'r 15fed benod o laf Corinthiaid yn darawiadol iawn. Un rhinwedd mawr oedd ynddi fel Cristion, gan na ollyngodd mor ddyledswydd deuluaidd i lawr er pan fu farw fy nhad. Offrymai ei gweddi mewn diolchgarwch yn gyson bob dydd at ei Duw, oddiar yr allor deuluaidd.
O'r glyn pob gelyn a giliodd -a stwr
Y storom ostegodd;
Y cyfaill gwiw a'i cofiodd,
Yn ei ras a'i urddas rodd.
A chryfach y cadd ei chrefydd - i'w dal
Yn deilwng trwy'r 'stormydd;
Hi aeth heb len i lawenydd,
Gwlad a wel yn dawel y dydd.
WILLIAM W. HUGHES