MR. SAMUEL R. JEFFREYS, UPPER LEHIGH, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf 27ain, 1877, yn Upper Lehigh, Luzerne County, Pennsylvania, Samuel R. Jeffreys, yn 53 mlwydd oed.

Mab ydoedd i'r diweddar Thomas Roberts, Bwlchygroes, Llanberis, sir Caernarvon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 24 mlynedd yn ôl ac ymsefydlodd yn Slatington, Pennsylvania. Daeth i'r lle hwn oddeutu tair blynedd yn ôl. Adnabyddid ef gan ugeiniau o bregethwyr, a chan ganoedd o frodyr a chwiorydd trwy y wlad hon, fel Cristion didwyll, diacon ffyddlon a dyn gwir garedig i bawb, ac yn enwedig i'w deulu. Aeth ef a chrefydd yn gyfeillion cynes, ac nid oes genym hanes iddynt syrthio allan a'u gilydd gymaint ag un waith. Yr oeddynt yn fwy cyfeillion yn y diwedd nag yn y dechreu. Siaradodd a gweddiodd lawer, ac yr oedd croesaw calon yn ei fwthyn yn wastad i'r pregethwyr ddeuent heibio i gyhoeddi'r gair.

Yr oedd yn un o'r dynion parchusaf yn ei ardal - cerid a pherchid ef gan bawb fel dyn duwiol a gwir dangnefeddus. Gwnaeth lawer er cynorthwyo'r gwaith da, a barnodd ei Feistr ei fod yn addfed ac yn barod i dderbyn ei wobr. Gadawodd ar ei ôl mewn dwys alar briod, un mab a phedair merch.

Claddwyd ei ran farwol yn Upper Lehigh y Sul canlynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn y tŷ gan Hull, o Drifton, ac wrth y bedd gan Morton, Upper Lehigh.

Y Duw a fu yn Dduw iddo ef a fyddo yn Dduw i'w briod a'i blant.

Y Drych ~ 23ain Awst 1877.