MRS. ANN L. JONES, CHICAGO, ILLINOIS.
Chwefror 24ain, 1877, yn Chicago, Illinois, yn 74 mlwydd oed, Mrs. Ann L. Jones.Ganwyd hi yn Towyn, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1834, yn nghyd a'i phriod sef Mr. John L. Jones (yr hwn sydd wedi marw er's blynyddau yn ôl) ac un ferch, sef Mrs. Mary Edwards, sydd yn awr yn fyw.
Buont fyw am rai blynyddau yn Utica, New York, a Racine, Wisconsin, ac yn y ddinas hon am oddeutu 22 o flynyddoedd.
Bu yn glaf iawn am y flwyddyn ddiweddaf, ac yn y misoedd diweddaf o'i chystudd yr oedd yn mwynhau cysuron crefydd yn fawr. Yr oedd yn bur oleu yn yr ysgrythyrau. Yr oedd yn aelod o eglwys y T. C. am lawer blwyddyn.
Gadawodd ar ei hoi ddau fab ac un ferch yn eu galar. Mae un o'r meibion yn fasnachwr cyfrifol yn y ddinas hon. Cafodd gladdedigaeth barchus ganddo ef yn Graceland Cemetery. Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan yr ysgrifenydd. Heddwch bellach i'w llwch hi, a Duw yn llon'd ei addewid i'r plant, medd yr eiddoch mewn cydymdeimlad.
DAVID HARRIES.