MR. DAVID B. JONES, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mai 11eg, 1877, yn Utica, New York, o'r darfodedigaeth, David B. Jones, paentiwr, yn 42 mlwydd oed.Mab ydoedd y trancedig i'r diweddar David a Jenet Jones, gynt o Dolgellau, sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Tua phedwar mis yn ôl sylwasom yn nghronicl marwolaethau y DRYCH hanes marwolaeth ddisymwth brawd ieuangaf gwrthrych hya o goflant, sef Griffith Jones, masnachydd yn Berlin, Wisconsin.
Nid oes yn aros o'r teulu lluosog hwn a ymfudasant o Gymru yn y flwyddyn 1842, ac a laniasant yn Quebec, Canada, ond mab a merch yn Toronto, a'r ferch henaf, Mrs. Elizabeth Goodwin, yn y ddinas hon. Cafodd y dosparth ieuangaf o'r plant golled anadferadwy trwy farwolaeth eu hanwyl dad mor fuan a disymwth ar ôl glanio yn America.