MRS. JANE E. JONES. PROSPECT, NEW YORK.
Tachwedd 3ydd, 1877, yn Prospect, New York, Mrs. Jane E. Jones, priod Mr. James Jones, yn 36 mlwydd a 3 mis oed.Yr oedd yr ymadawedig yn ddynes garedig a siriol, addfwyn a gostyngedig, a pherchid hi gan bawb a'i hadwaenai fel y cyfryw.
Ganwyd hi o fewn pedair milltir i Porthmadog, Gogledd Cymru. Wedi treulio y rhan foreuaf o'i hoes yn mro ei genedigaeth symudodd i Liverpool, a derbyniwyd hi yn aelod o eglwys yr A. gan y Parch. John Thomas, D. D.
Oddeutu 13 mlynedd yn ôl daeth i'r wlad hon, ac yn mhen blwyddyn wedyn priododd â Mr. Jones. Daeth a llythyr cymeradwyaethol o Liverpool i'r eglwys hon; ond o herwydd afiechyd ac anhawsderau eraill, yr oedd wedi ymbellhau oddiwrth grefydd; ond derbyniwyd hi yn ei hol yr haf diweddaf, ac y mae genym bob lle i gasglu ei bod heddyw yn un o'r nefol deulu.
Gadawodd ŵr a thri o blant ar ei hol mewn galar. Boed Duw yn dirion o honynt.
Gweinyddwyd yn ei hangladd gan Mr. G. J. Jones (Llew o'r Llain) a'r Parch. J. Seth Jones. Ar gais y perthynasau pregethodd Llew o'r Llain yn Saesneg a J. Seth Jones yn Gymraeg.