MR. WILLIAM W. JONES, PETER'S CREEK, LANCASTER COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mehefin 1af, 1877, yn Peter's Creek, Lancaster County, Pennsylvania, cyfarfu William W. Jones â damwain yn chwarel William E. Jones a'i Gwmni, yr hon a droes yn angeuol iddo tua naw o'r gloch y nos yr ail cyfisol. Pan yn myned at ei waith yn y boreu aeth un o'i gydweithwyr i lawr yn y box, a rhoes yntau naid at y rhaff, a daeth hono yn rhydd oddiar y drym ac i lawr ag ef i'r dyfnder o tuag ugain llath.

Brodor oedd o Rhiwlas, sir Caernarfon, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon tua pum mlynedd yn ôl. Yr oedd yn 25 mlwydd oed, neu beth yn ychwaneg. Yr oedd yn briod gydag un o ferched y wlad hon. Yr oedd yn weithgar a gofalus am ei deulu.

Dydd Llun canlynol claddwyd ef yn Fairfield. Gweinyddwyd wrth y tŷ ac yn y fynwent gan Adam Black, a chanwyd yn Gymraeg yn y tŷ ac wrth y bedd gan ei gyfeillion. Heddwch i'w lwch.

Y Drych ~ 21ain Mehefin 1877.