MR. JOHN L. LEWIS. TUSCARORA, ELKO COUNTY, NEVADA.

Hydref 14eg, 1877, yn Tuscarora, Elko County, Nevada, Mr. John L. Lewis, yn 48 mlwydd oed.

Claddwyd ef yn barchus ar y 16eg yn mynwent perthynol i'r dref, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan un o weinidogion y lle.

Ymfudodd Mr. Lewis i'r wlad hon tua 31 o flynyddoedd yn ô1 o le o'r enw Hafodlailidian, yn ardal y Blaenau yn agos i Ddolgellau. Sefydlodd gyntaf yn y wlad hon yn Pittsburgh, Pennsylvania, lle y mae iddo yn awr ddau o blant amddifad.

Tuag 20 mlynedd yn ôl ymfadodd Mr. Lewis i California; ond treuliodd y tair blynedd diweddaf yn British Columbia, a daeth i'r Dalaeth hon tua dau fis yn ôl.

Y Drych ~ 6ed Rhagfyr 1877.