MR. JOHN R. THOMAS, NINETYSIX, REMSEN, NEW YORK.

John R. Thomas ydoedd fab i Richard a Mary Thomas, gynt o blwyf Bryncroes, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ganwyd ef mewn aneddle ger capel Hebron, yn y plwyf a enwyd, Medi 23ain, 1790. Ei fam ydoedd yn ofni yr Arglwydd o'i hieuenctyd - yn aelod eglwysig o'r cyfundeb Cynulleidfaol flynyddau cyn priodi - ac yn rhagorol o ran cysondeb ei phrofiad, gweddusrwydd ei hymarweddiad, a diysgogrwydd ei hegwyddorion crefyddol. A gellir dyweyd yn gyffelyb yr un modd am ei dad - yr oedd yn ddyn moesol ac o du achos yr efengyl er yn ieuanc, ond yn America y gwnaeth broffes gyhoeddus o'i ffydd yu Mab Duw, - a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben pan oedd yr eglwys hono dan ofal gweinidogaethol y Parch. John Roberts.

Y teulu, yn cynwys 5 o feibion a thair o ferched ynghyd a'u tad a'u mam, a gychwynasant eu taith o Fryncroes tua'r America, Mai 12fed, 1795, pan oedd gwrthrych y Cofiant hwn o fewn ychydig i gyrhaedd ei 5 mlwydd oed, a daethant i mewn i borthladd Caerefrog Newydd y 25ain o Orphenaf, yn y flwyddyn houo. Merch o Loegr o'r enw Miss Davies, a gymerodd hoffder mawr ynddo fel plentyn hynaws, a bu gyda hi yn yr ysgol hyd oni symudodd y teulu o Gaerefrog Newydd i gymydogaeth Philadelphia, i le a elwid Fox Chase, o fewn 10 milltir i'r ddinas, yr hyn a gymerodd le yn mis Mehefin, yn y flwyddyn 1798. Yr oedd yn myned i'r ysgol haf a gauaf yn y lle hwn, hyd Mai, 1800, pan y symudodd y teulu i fyw i'r ddinas; o'r pryd hwn ni bu nemawr mewn ysgol hyd oni ddaeth i oedran a medrusrwydd priodol i gymeryd gofal ysgol ei hun.

Yn y blynyddoedd hyn yr oedd sefydliad cryf o Gymry, yn cynwys amryw gannoedd o'n cenedl, yn Philadelphia a'r gymydogaeth. Teulu Mr. Thomas a aent yn gyffredin un pen o'r Sabboth i wrando ar y Dr. Samuel Jones, Pennibank, tua milltir a haner oddiwrth y lle yr oeddynt yn byw, yr hwn a bregethai yu Saesoneg, ac a ymddyddanai yn rhwydd â'r Cymry yn Gymraeg. Mr. Daniel Morris, (o Utica wedi hyny,) Mr. Hugh Owen, yn awr o'r Pentref Newydd, Mr. Richard Jones, a fu yn weinidog y Bedyddwyr yn Steuben dros flynyddau lawer, Mr. Howell R. Powell, yn awr o Palmyra, Ohio, ynghyd a gwr o'r enw Jenkyn Samuel, a bregethent i'r Cymry yn Philadelphia a'r ardal y blynyddoedd hyn.

Teulu Mr. Richard Thomas a ymfudasant o Philadelphia i blwyf Trenton, swydd Oneida, C. N., yn Hydref 1804; ac ar y ffarm a brynasant y pryd hyny y buont yn aros hyd farwolaeth y tad a'r fam, a John R.Thomas a'i deulu a fuont byw yno flynyddau wedi hyny - bu ef yn byw yno yn y cyfan o flynyddoedd. Mai 4ydd, 1821, ymuodd mewu priodas a Miss Elinor Parry, merch i William a Laura Parry o'r Pantglas, plwyf Llangian, swydd Gaernarfon, yr hon addaeth i fynu i ardal Steuben yn y flwyddyn 1820, sef yr un flwyddyu ag y daeth y Parch. Evan Roberts i Steuben. Yn mhen ychydig fisoedd wedi priodi ymwasgodd a phobl yr Arglwydd a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Steuben, o'r hon yr oedd ei wraig yu aelod er pan y daeth gyntaf i'r ardal.

Cyn pen hir wedi ei dderbyniad yn aelod, gwnaed ef yn un o ddiaconiaid yr eglwys a pharhaodd yn y swydd hono hyd ei farwolaeth. Bu yn un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas grefyddol yn Steuben dros flynyddau, cyn ac ar ôl ei dderbyniad yn aelod o'r eglwys. Yr oedd yn un o'r prif offerynau yn nghodiad yr Addoldy meini helaeth a fedd y Gynulleidfa hon hyd y dydd heddyw. Yr oedd yn dra hyddysg o egwyddorion canu, a bu yn dechreu canu yn Nghynulleidfa Steuben tua 15 mlynedd.

Symudodd y teulu o Trenton i Ninety-six, Mai 7fed, 1834, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau. Enillodd Mr. Thomas yn y gymydogaeth hon, fel y gwnaethai yn yr ardal flaenorol, gymeradwyaeth mawr ymhlith ei gydnabyddiaeth fel cymydog nawddgar, dinasydd deallus, a chrefyddwr gwastad a chyson a'i broffes. Dewiswyd ef gan ei gyd ddinasyddion yn Ynad Heddwch, yn yr hon swydd y bu yn gweini dros rai blynyddau.

Yr oedd John R. Thomas wedi ei ddwyn i fynu dan ddylanwad crefydd Iesu Grist o'i febyd, a diameu i lawer o weddiau gael eu hoffrymu drosto pan oedd ar fronau ei fam, yn gystal a thros yr aelodau ereili o'r teulu, a dywedodd yn ddiweddar, pan yn ymddyddan am grefydd gydag un o'i gymydogion Seisnig, fod ganddo le i obeithio ei fod wedi credu yn yr Arglwyud Iesu Grist er yn blentyn. Un o'i frodyr a ddywed iddo ei glywed yn gweddio yn nheulu ei dad aml waith pan oedd tuag wyth mlwydd oed - ei fam a ddarllenai bennod ac yntau a arweiniai mewn gweddi.

O'i ieuenctid, yr oedd yn dra hoff o ddarllen. Nid oes nemawr o amaethwyr ein hardaloedd wedi darllen cynifer o lyfrau buddiol ag a ddarllenodd y brawd hwn. Ac nid darllen er mwyn darllen y byddai, ond er mwyn gwybod y pethau a gynwysai y llyfrau a ddarllenai. Trwy hyn, ac yntau yn ddyn o gyneddfau treiddgar ac yn sychedig am wybodaeth, daeth yn dra hyddysg yu egwyddorion gogoneddus yr Ysgrythyrau - yn nyledswyddau pwysig y dinasydd cristionogol - mewn hanesyddiaeth gyntefig a diweddar - ynghyd a changenau ereill o wybodaethau yn gyffredinol. - Yr olwg oedd ganddo ar broffwydoliaethau yr ysgrythyrau a barai iddo ddysgwyl am ryw gyfnewidiadau mawrion, yn y byd moesol, tua'r blynyddau hyn, ac yn enwedig yn y flwyddyn hon (1845). Dysgwyliai am ryw ergydion o bwys ar Fahometaniaeth a Phabyddiaeth yn y flwyddyn hon. A phan yr edrychom ar y Diwygiad presenol yn Germani, ac yn ddiweddar yn Constantinople, gellir dyweyd fod ergydion o bwys yu cyrhaedd y "Gau Broffwyd" a'r "Bwystfil" hefyd, yn y flwyddyn 1845. Ond pa beth bynag a ellir ddyweyd am y pethau hyn, daeth y flwyddyn 1845 a chyfnewidiad rhyfedd iddo ef - trwy ei symud ar fyr rybudd o fyd y marwolion i fyd yr anfarwolion - o "wlad y cystudd mawr," fel yr hyderym, i wlad y gwynfyd tragywyddol, trwy rinweddau angeu'r groes.

Nid oedd Mr. Thomas yn gwneud cymaint o ddangosiad o'i brofiad crefyddol ag y gwna llawer un. Ofnai yn wir yn fynych rhag ei fod yn ei dwyllo ei hun. Brydiau ereill byddai yn dra hyderus, ac yn meddu ar gysur cryf yn yr Arglwydd i nodweddiad erefyddol mwyaf hynodol ydoedd, gwastadrwydd a diysagogrwydd mewn egwyddorion ac ymarweddiad; ae ymestyniad cyffredinol at yr uchelnod o ogoneddu Duw a gwasanaethu ei genedlaeth.

Yr oedd yn gyfaill ffyddlawn i achos y caethwas. Darllenai lawer am helyntoedd y caethion, a gweithrediadau gorthrymus ein Llywodraeth Gyffredinol, a Thalaethol hefyd, ar eu hachos, yr hyn a effeithiai yn dra dwys ar ei feddwl. Ystyriai y mesurau gwladwriaethol o ansawdd arianol, y rhai a gynhyrfant feddyliau llaweroedd y dyddiau hyn, yu llai na dim ac na gwegi, wrth eu cymharu â phwysigrwydd annhraethol yr achos hon. Yr oedd yn gwbl benderfynol i roi pwys ei ddylanwad a'i bleidlais o du cyfeillion profedig y caethwas, tra byddai byw ar y ddaear; a chydweithrediad yn hyn a ystyriai yr unig lwybr gobeithiol a heddychlawn, er sicrhau eu prysur ymwared. O! fel yr ymagorai ei enaid mewn llonder ar brydiau wrth feddwl fod blwyddyn y Jubili gyffredinol i gymeryd lle yn ein gwlad, fel y credai yn gadarn, cyn bo hir iawn.

Fel yr oedd Mr. Thomas yn dra hoff o ganu, arferai er yn ddiweddar fyned unwaith yu yr wythnos i'r ysgol ddyddiol yn ymyl ei dŷ anedd, yr hon a ddysgid gan ei ferch henaf, i ddysgu y plant bychain i ganu mawl i'r Arglwydd, yn yr hyn y cymerai hyfrydwch mawr. Cafodd y brawd hwn un fraint nad yw llawer o deuluoedd plant yr Arglwydd yn ei chyrhaedd - cafodd weled ei holl deulu yu aelodau o eglwys Dduw - nid yn fynych y ceir tad tynerach a phriod mwy addfwyn yn ei deulu nag y bu ef, a hyny byd y fynud olaf - a chafodd y fraint o'i gadael oll yn llaw yr Arglwydd ac yn mynwes Sion.

Gan ein bod yn rhoi Cofiant byr o fywyd ein brawd, dichon nad anfuddiol a fyddai rhoi gair o grybwylliad am y gwaredigaethau rhag angeu a gafodd yn nhymor ei oes. Gwaredwyd ef aml dro meg- ys o safn marwolaeth. Pan yn ddwy-flwydd oed, cymerodd ei ddillad dan oddiwrth ganwyll a ddygwyddai fod yn ei law; llosgwyd ei aelodau ei wddf a'i wyneb yn drwm iawn, a'i chwaer hefyd a gafodd niwed lled fawr i'w breichiau wrth geisio ei achub, a thybir mai rhyw wisg dan am ei gorff, yr hon nad oedd wedi llosgi trwyddi, a fu y moddion o'i achub rhag angeu. - Dro arall wedi dyfod i'r wlad hon, cwympodd torlan arno, tua'r Bowery yn New York, pan y bu o fewn ychydig i gael ei lethu a'i fygu i farwolaeth. - Dro arall, syrthiodd dros ymyl bad bychan i'r dock, ond y drydedd waith y daeth i fynu gyda grym y dwfr, yr hyn, tebygid, a fuasai y tro diweddaf, llwyddwyd i gael gafael ynddo a'i dynu i fynu. Un tro arall, tua dwy flynedd wedi priodi, aeth yn llongddrylliad arno wrth ddychwelyd o Charleston, Carolina Ddeheuol, i New York, a phrin y gallwyd cael y llestr i dir cyn ei churo yn yfflon gan y dymhestl, Adgofiai yn fynych, gyda theimladau o syudod a diolchgarwch, am y gwaredigaethau cyfyng a gawsai yn y troion a enwyd.

Ni bu ei gystudd diweddaf ond byr, eto yr oedd yn rymus a gorchfygol. Cymerwyd ef yn glaf ar brydnawn ddydd Gwener, tua 3 o'r gloch, Mehefin 13eg, pan y gorfu iddo adael ei waith a dyfod i'r ty i fyned ar y gwely; a thua haner awr wedi 7 o'r gloch, bore dydd Sadwrn, Mehefin 21, ar ôl wythnos o gystudd trwm, anadlodd yn dawel ei ysbryd anfarwol, fel y mae ein gobaith cadarn, i ddwylaw ei Brynwr bendigedig. Yr oedd ei gystudd yn gainc o'r Parlys ynghyd a phethau ereill yn cydgyfarfod. Felly effeithiodd ar ei dafod leferydd, fel na allai dori ei eiriau yn groyw, oddieithr ambell waith - ei feddwl hefyd a ymdaflai o'i gyson weithrediad yn aml. Eto yr oedd ar amserau yn hollawl wybodus o'i sefyllfa, ac yn gallu dyweyd yn eglur am sylfaeni ei obaith yn yr Arglwydd. Un diwrnod dywedodd wrth ei ferch, Mary, "Ni byddaf yma ond deuddydd neu dri yn ychwaneg." I ba le yr ydych yn myned (gofynai iddo) anwyl dad? "O," atebai, "at Iesu, at lesu!" Galwodd ei deulu oll o amgylch ei wely gan roddi cynghorion dwysion i bob un; ond nis gellid deall y cyfan a ddywedodd, o herwydd bloesgni ei leferydd. Ymddangosai yn aml fel pe buasai ei enaid yn llawn gorfoledd a gwen siriol ar ei wynebpryd, yntau yn ceisio canmol, ond yn methu dyweyd fel y gellid ei ddeall.

Y diwrnod cyn marw edrychodd o amgylch yr ystafell a dywedodd, "Mae y ty hwn yn wael ac anrhefnus iawn, ond byddaf, yfory, mewn tŷ llawer rhagorach." "Ymha le," gofynai un o'r teulu. "Byddaf gyda'r Iesu," atebai gyda sirioldeb mawr. Yn y mynudau y bu farw, ei ferch henaf a ddywedodd, "Chwi wellhewch yn hollawl iach, just yn union, oni wnewch, anwyl dad?" Yntau aatebodd, "0 gwnaf! O gwnaf!" "A ydych yn llawer salach, John bach?" ebe ei wraig. Mewn llais dystaw dywedodd, "Yr wyf yn marw!" a chyn pen mynud neu ddau yr oedd wedi cwbl lonyddu, fel un yn ymollwng yn esmwyth i hun dawel. Fel hyn y terfynodd gyrfa ddaearol ein hanwyl gyfaill a'n brawd yn yr Arglwydd, John R. Thomas.

Claddwyd ei ran farwol yn monwent y Capel Ucha', Steuben. Ar achlysur y gladdedigaeth yr oedd lluaws o berthynasau a thorf fawr o Gymry a Saeson wedi ymgasglu ynghyd. Pregethwyd wrth y tŷ yn Saesoneg gan R. Everett, oddiwrth Matt. 24: 42; ac yu yr Addoldy, gan yr un, oddiwrth Act. 13: 86, a chan y Parch. M. Roberts, oddiwrth Esaiah 57: 2.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1845.