MRS. ELLEN MORRIS, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Ebrill 18fed, 1877, yn West Bangor, Pennsylvania, Mrs. Ellen Morris, anwyl briod Mr. William W. Morris, yn 53 mlwydd oed.

Cafodd gystudd maiih a thrwm: ond goddefodd ef yn hynod ddirwgnach, a gadawodd dysdolaeth eglur ar ei hoi i'w theulu a'i chyfeillion galarus ei bod mewn undeb anatodol a'r hwn sydd abl i gadw yr hyn oll a roddir ato.

Gadawodd briod hoff a merch anwyl i alaru eu colled amdani; ac yn wir teimlir colled trwy'r gymydogaeth yn gyffredinol ar ôl yr ymadawedig oblegid yr oedd yn hynod am ei chymwynasgarwch a'i medr i gynorthwyo ei chymydogion, yn neillduol mewn achosion profedigaethus. Yr oedd yr ymadawedig yn ferch i Mr. a Mrs Morris Jones, Gallt y Celyn. Llanrug, sir Caernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon oddeutu 30 mlynedd yn ôl. Ymsefydlasant yn Nhalaeth New York am dymor o chwe mlynedd: yna symndasant i'r ardal hon, lle y datodwyd y cwlwm a'u cysylltodd am yr ysbaid o 32 o flynyddoedd.

Hebryngwyd ei gweddillion marwol gan dyrfa luosog ar yr 20fed, i fynwent Slateville, pryd y gweinyddwyd yn effeithiol yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. T. M. Crawford.

Y Drych ~ 3ydd Mai 1877.