MR. JAMES OWEN JNR. ROSE HILL CHICAGO.
Mab James ag Ann Owen.Roedd James yn un o wyth neu naw o blant i James ac Ann Owen, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Aberdaron ar 28/6/1807.
Bu Ann, ei fam farw ar 30/11/1812 yn 44 oed.
Ar 13/11/1816 priododd James Owen gyda Jane Jones o Bandy Bodwrdda ym mhlwyf Aberdaron.
Yn 1818 ymfudodd James a Jane Owen, ei ail wraig i America. Arosodd mab hynaf James, Owen yng Nghymru, ac aeth y plant eraill gyda'r teulu i America.
Priododd James Owen Jnr gyda Catherine Hughes oedd wedi ymfudo o Gymru yr un amser.
Ganwyd iddynt ferch, Ann yn 1837 ac yn 1846 bu Catherine farw ar enedigaeth ei ail ferch, Catherine.
Yn 1848 priododd James gyda merch arall o Gymru, Jane Mary Jenkins.
Yn y cyfnod yma 'roedd James yn ffermio yn ardal Remsen.
Erbyn cyfrifiad 1860 'roedd James a Jane Owen yn byw yn Chicago gyda pedwar o blant. Erbyn hyn 'roedd James yn disgrifio ei hyn fel "Lumber Dealer" ac yr oedd ganddo eiddo gwerth 15,000 o ddoleri.
Erbyn 1870 'roedd James yn Coal Dealer hefyd a gwerth ei eiddo wedi cynyddu i 20,000 o ddoleri.
Bu James farw ar 7/3/1877 yn 70 oed.
Bu Jane farw yn 1883.
Mae gweddillion y ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Rose Hill yn Chicago, Illinois.