MRS. JANE OWENS. OSHKOSH, WISCONSIN.

Chwefror 6ed, 1877, yn Oshkosh, Wisconsin, Mrs. Jane Owens. Ganwyd y chwaer Owens yn Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1818.

Daeth i'r wlad hon gyda ei rhieni (John ac Eleanor Roberts) pan tua 8 mlwydd oed, a sefydlasant yn Swydd Oneida, New York; yna symudasant i Swydd Cattaraugus.

Yno ymunodd â chrefydd, gyda y Bedyddwyr, pan yn ferch ieuanc. Bedyddiwyd hi gan y Parch. William F. Phillips.

Priododd Ebrill 10fed, 1849, gyda Robert T. Owens, Remsen y pryd hwnw, ac yn aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Yn mhen rhyw gynifer o flynyddoedd, ymunodd R. T. Owens a'r Bedyddwyr. Bedyddiwyd ef gan y Parch. Thomas Roberts; ac yn fuan dechreuodd bregethu. Yn mis Mai, 1855, symudasant i ardal Oshkosh, Wisconsin, gyda llythyrau o gymeradwyaeth a gollyngdod o eglwys Freedom, Cattaraugus; ac ymunodd ef â hithau ag eglwys y Bedyddwyr Cymreig, sef Salem. Bu y brawd Owens yn pregethu yn yr eglwys hon am yn agos i ddwy flynedd, ac yn achlysurol tra fu byw.

Ond symudodd y teulu yn nes i ddinas Oshkosh i fyw, a chawsant lythyrau gollyngdod, ac ymunasant gyda'r Bedyddwyr Seisnig yno, am ei bod yn fwy cyfleus i addoli. Yn y flwyddyn 1868 symudasant i ardal Spring Water, Waushara County, Wisconsin, ac ymunasant ag eglwys y Bedyddwyr yno. Bu y brawd yn pregethu yn yr ardal hono eto yn Gymraeg a Saesoneg; ac yn Ebrill, 1870, daethant yn ol i Oshkosh i fyw; ac yn mis Mai, y 19eg, bu farw, ar ôl ychydig ddyddiau o afiechyd. Gwel y darllenydd ei fod wedi bod yn lied symudol yn ei fywyd; ond credwn yn gadarn ei fod wedi myned i dangnefedd, i'r aneddle lonydd, lle na ddywed neb o'i phreswylwyr, mai claf ydwyf mwy.

Gadawodd weddw a dwy ferch i alaru ar ei ôl. Bu y chwaer fyw yn ninas Oshkosh ar ôl claddu ei gŵr, a rhoddodd ei llythyr o aelodaeth yn eglwys Salem, gan ei bod yn mwynhau ei hun yn well yn y moddion crefyddol yn yr iaith Gymraeg na'r Saesoneg; a byddai yn ymdrechu cadw ei chydgynulliad oreu y gallai ag ystyried pellder y ffordd oedd ganddi i ddod i'r moddion. Bu yn dihoeni o ran ei hiechyd yn hir o anhwyldeb yr afu. Cymerodd lawer o gyffeiriau, ond i ychydig o ddyben; yr oedd angau fel wedi anelu ei saeth ati er ys misoedd. Teimlodd awydd i fyned i'r wlad tua phum' wythnos cyn iddi farw, at ei chwaer a'i brawd-yn-nghyfraith, Jarrett Roberts, ac adfywiodd y symudiad ychydig arni ar y cyntaf. Bu yn myned allan yn y sleigh ychydig droion, ac hyderai y cai wellad; ond tuag wythnos cyn iddi farw, gwaethygodd, a chafodd ar ei meddwl fod yn ddyledswydd arni i wneyd ewyllys o'r hyn oedd ganddi; ac ar ôl gwneyd y gorchwyl hwnw, yr oedd ei meddwl wedi tawelu i ewyllys yr Arglwydd, er y carasai gael byw gyda eu merched. Ond dy ewyllys a wneler, oedd iaith ei hymddyddan. Yr oedd y chwaer hon o dymer garedig iawn, parod i weinyddu cymwynas yn mhob amgylchiad o gyfyngder; perchid hi gan y rhai a'i hadwaenai oreu, a dangoswyd hyny yn weithredol ar ddydd ei chladdedigaeth. Yr oedd yr orymdaith yn fawr yn hebrwng ei gweddillion marwol i dy ei hir gartref, o dŷ Mr. Jarrett Roberts, lle y bu farw.

Gweinyddwyd yn y tŷ, gan R. Roberts, Proscairon; ac yn y capel gan y Parchedigion John Evans (B.), J. Jones (W.), J. B. Evans (A.), Oshkosh, T. Foulkes (T. C.); ac ar lan y bedd gan J. Jones (A.)

Felly y terfynodd y gwasanaeth. Heddwch i'w llwch. Tad yr amddifad a ofalo am eu merched. Mewn galar.
R. BENNETT.

Y Wawr ~ Mai 1877.