MRS. MARY OWENS, BELOIT, WISCONSIN.
Ebrill 23ain, 1877, yn Beloit, Wisconsin, yn 96 mlwydd a 6 mis oed, Mrs. Mary Owens.Daeth i'r wlad hon o Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn 1805, gyda'i merch a'i mab-yn-nghyfraith, W. Roberts; ac mae'n debyg mai hwy oeddynt y Cymry cyntaf i ymsefydlu yn y lle hwn. Mae i'r hen chwaer ddwy ferch yn fyw; collodd un ferch a mab, sef David Owens, yr hwn oedd yn bregethwr.
Dydd Mercher, y 25ain, ymgasglodd torf luosog i dalu y gymwynas olaf i'r hen chwaer, pryd y gweinyddwyd yn Seisneg gan y Parch. Hickley yn y tŷ ac ar lan y bedd. Yr Arglwydd a roddo gymorth i'r ddwy ferch alarus i bara yn ffyddlon gyda chrefydd hyd y diwedd.