MR. THOMAS PARRY. STEINVILLE, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 11eg, 1877, o'r parlys mud, yn mhen 20 mynyd ar ôl cael ei daro, Thomas Parry. Steinville, Pennsylvania, yn 44 mlwydd oed.

Claddwyd ef yn nghladdfa Jacksonville, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. N. Bauchman yn Saesneg, oddiar Job xiv. 10.

Ganwyd T. Parry yn Llanddeiniolen, Caernarfon. Claddodd ei wraig yn Nghymru, ac y mae wedi gadael tri o blant - dau yno, ac un yma yn y lle hwn.

Y Drych ~ 27ain Rhagfyr 1877.