MR. WILLIAM O. PRICHARD, SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Mawrth 8fed, 1877, yn Slatington. Pennsylvania, William O. Prichard, yn 47 mlwydd oed.

Cafodd ei gystuddio am fisoedd lawer gan un o weision ffyddionaf angeu, sef y darfodedigaeth.

Yr oedd yn fab i Mr. a Mrs. Owen Prichard. Bryn'refaii, swydd Caernarfon, Gogledd Cymru.

Ymbriododd yn y wlad hon, yn Stransburgh, Pennsylvania, gydag Anne M. Jones, merch i Catherine a John Marc Jones, Slatington, Pennsylvania, oddeutu 23 o flynyddau yn ôl.

Gweddiodd lawer yr wythnosau olaf y bu fyw am gael ei gadw i fywyd tragwyddol. a chredwn iddo gael ymwybodolrwydd i'w fynwes fod Mab Duw yn foddlon i'w derbyn. Yr oeddym gydag ef yn ei ystafell yn ei fynydau olaf, ac O! y fath brofiad bendigedig. Mae geiriau olaf dyn pan yn marw, yn gadael argraff neillduol ar y meddwl dynol. Ac anaml bydd yn y geiriau hyny ddefnydd cysur i'r rhai fydd yn galaru ar ôl.

Pwy all ddywedyd faint o gysur a dedwyddwch y mae y byd Cristionogol wedi ei gael, yn gael, ac i gael yn y gair. "Gorphenwyd," a lefarwyd gan Fab Duw ar bren melldigedig y groes. Felly hefyd i raddau, yr oedd y geiriau a lefarwyd gan y brawd hwn i'w blant a'i briod, Pan oedd ei draed megys yn rhydiau'r afon, a loesion angen yn chwerw, yr oedd yn gallu canu yn gryf a llefaru yn uchel. Dywedai wrth ei briod - "Dichon fod rhai yn y room yma gyda thi, ond 'dwy i yn gweled neb ond Iesu Grist." A chanai -

"Fy enaid 'hed tua'r nef o hyd,
A gad dy galon yno i gyd,
'Does unrhyw ofid, unrhyw boen,
All wasgu ar yr Addfwyn Oen;
Ac yn ei boenau ef a'i gu,
Mae holl esmwythdra f' enaid i."

Claddwyd ei weddillion marwol gan dyrfa luosog yn mynwent y M. C., pryd y gweinyddwyd gan y Parch. George Hill, Drifton, Pennsylvania. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon fyddo yn nodded ac yn amddiffyn i'r weddw a'r plant sydd yn galaru ar ei ôl. Heddwch fyddo i'w lwch hyd y dydd y byddo Mab Duw yn gwneuthur ei briodoledd i fyny.
E E MORGAN (Deiniol Fychan).

Y Drych ~ 5ed Ebrill 1877.