MRS. CATHERINE RICHARDS, NEW CAMBRIA, MISSOURI.
Ebrill 1af, 1877, yn New Cambria. Missouri, Mrs. Catherine Richards, diweddar o Newark, Ohio, yn 71 mlwydd oed.Ganwyd Mrs Richards yn Llanuwchllyn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Bu yn briod ddwy waith. Ei hail briod ydoedd John B. Richards, o'r lle hwn, yr hwn sydd wedi ei goroesi, ac mewn galar dwys ar ei hol.
Yr oedd yn wraig gynil, ddystaw a chrefyddol.
Claddwyd hi yn barchus yr ail tranoeth yn mynwent New Cambria.