MR. WILLIAM LEWIS ROBERTS, KIRKWOOD, ILLINOIS.
William Lewis Roberts oedd mab hynaf Lewis Roberts a Lowry Hughes.Priododd Lewis Roberts Ty'n Anelog a Lowry Hughes o Aberdaron yn Eglwys Sant Hywyn Aberdaron ar y 6ed Ebrill, 1795, a bedyddiwyd eu plant yno hefyd.
09/08/1795 Margaret of Lewis and Lowry Roberts
01/03/1797 William
06/01/1799 Hugh
19/11/1801 John
31/05/1807 Ann
30/07/1809 Henry Hughes
17/09/1811 Robert
Bu Lewis Roberts farw ar 5ed o Fai, 1823 yn 71 oed. Ar ôl colli ei dad penderfynnodd William, fynd i'r America i chwilio am dir addas i'w deulu ymsefydlu arno.
Hwyliodd o Lerpwl ar 11eg o Awst, 1823 ar fwrdd y llong Orizimbo a gellir gweld ei enw, William Lewis gyda amrhyw o deuluoedd eraill o ardal Aberdaron ar y siwrnai.
Mae'n debyg y bu'n llwyddianus yn chwilio am fferm oherwydd ymfudodd y teulu i'r America ar fwrdd yr Orizimbo ar 31ain Mai 1824 ac yn y rhestr teithwyr gellir gweld.
John Lewis 22
Henry Lewis 14
Robert Lewis 12
Lowry Hughes 52
Eleanor Hughes 19
Ann Lewis 16
Sefydlodd y teulu ar fferm yn ardal Remsen gan enwi eu tŷ yno yn Ty'n Anelog er cof am eu cartref yn Aberdaron.
Priododd Ann gyda Benjamin Richards o ardal Remsen.
Priododd Eleanor gyda Griffith Francis oedd wedi ymfudo o Trefgraig Bach, Llangwnadl. Ar garreg fedd Griffith Francis, ym mynwent Capel Sixty yn Steuben gellir gweld ychydig o hanes y teulu.
Laura Roberts 1772 - 1863.
Widow of Lewis Roberts of Ty'n Anelog, Aberdaron emmigrated on Arizimbo May 1823 with six children.
Elinor Francis. Ann Richards.
Met at Utica by friends with teams, settled in a log house. Griffith Francis b 1791 Trefgraig Bach, Lleyn, son of Francis Griffith, bought a local farm in 1820.
Yn 1851 daeth trychineb i ran y teulu pan ddarganfyddwyd corff Henry L Roberts wedi cael ei lofruddio yn New Buffalo, Michigan. Yr oedd yn 37 oed ac yn gweithio fel masnachwr yn y dref.
Glyn Roberts ~ Awst 2021.
MR. WILLIAM LEWIS ROBERTS, KIRKWOOD, ILLINOIS.
Ganwyd William L. Roberts yn hen gartref y teulu, yn Sir Gaernarfon, yn Nghymru, yn y flwyddyn 1797. Daeth i America yn y flwyddyn 1823.Bu yn byw yn Swydd Oneida, New York, a'r amgylchoedd, hyd y flwyddyn 1855, pan y symudodd i Kirkwood, Illinois, lle y bu farw ar y 23ain o fis Chwefror diweddaf, yn 80 mlwydd oed.
Yr oedd yn frawd i Mrs. Richards, French Road, Steuben, ac i Mr. Robert L. Roberts, Harrisburgh, Swydd Lewis, New York.
Ymunodd â chrefydd gyda'r M. E., pan yn 30ain mlwydd oed, a bu yn aelod ffyddlon, selog a gweithgar gyda hwy am haner can' mlynedd.
Hynodid ef gan ei ysbryd tanllyd gyda chrefydd. Am yr ugain mlynedd olaf o'i oes, yr oedd wedi myned yn hollol i fysg y Saeson. Ond er fod ei iaith yn doredig, eto ni omeddai gymeryd ei ran yn y weddi gyhoeddus pan elwid arno. Dechreuai yn y Saesoneg, ond ar ôl twywno a gwresogi, byddai weithiau yn anghofio ei hun, ac yn tori allan i orfoleddu a molianu Duw yn yr iaith Gymraeg, gyda'r fath hwyl, nes y byddai y gwrandawyr yn teimlo dylanwad nefolaidd o dan ei weddi, er na ddeallant yr un gair.